Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

trais

trais

Ar ben trais ei gwr, poen ysgaru, cyfrifoldeb y plant ac amodau byw anobeithiol, yr oedd swyddog y dref yn ei gwrthod.

Ymdrinia'r nofel hon â hen broblem oesol ac un sydd ar gynnydd heddiw yn ôl y sôn – sef trais o fewn perthynas.

Dyna ganlyniad arall y trais parhaol sydd ledled y byd.

Canlyniadau hud a lledrith Gwydion a Llwyd yw trais, rhyfel, marwolaeth a dioddefaint.

Os mai T am trais syn syn gwneud Tyson yn annerbyniol T am trahaus syn gwneud Straw yntau yn wrthun.

Wrth i'r trais gynyddu rhwystrodd Byddin Israel bobol rhag teithio i mewn ac allan o drefi Bethlehem a Ramallah.

Oni lwyddwn ni drwy dulliau di-drais grymus, bydd eraill yn troi at ddulliau trais.

Hyd yma mae 230 wedi'u lladd ers i'r trais ddechrau fis Medi, y rhan fwyaf ohonyn nhw'n Balestiniaid.

Mae'r Arlywydd Clinton wedi cyfarfod Yasser Arafat ac Ehud Barak, Prif Weinidog Israel dros y dyddiau diwethaf i geisio dod âr trais i ben.

Ateb Teyrnon i'r ymgais gyntaf am ddial oedd trais: fe dorrodd fraich yr anghenfil a oedd wedi cipio'r plentyn.

Gyda charfan o osodwyr plât yn y blaen, rhuthrodd y picedwyr at yr heddlu a'r milwyr, gan lwyddo i ailfeddiannu'r groesfan Gofynnodd y Capten Burrows i Thomas Jones ddarllen y Ddeddf Derfysg, ond-gwrthododd Jones gan nad oedd y trais yn ddigon i gyfiawnhau gwneud hynny.

Mewn dinas sy'n llawn trais a pherygl, yr unig ddihangfa yw diod a chyffuriau a'r gobaith am gysur cyfeillgarwch neu gariad.

Yn ogystal â chynnig gwasanaeth tosoturiol, ymarferol ar gyfer menywod a phlant sy'n dioddef trais, rhaid i'r mudiad ymgyrchu i wella cyfreithiau sifil a throseddol i'w diogelu a'u hamddiffyn.

Mae hyn yn arwain at yr ail fesur a gynigiwyd gan Gomisiwn y Gyfraith sef eu hadroddiad, 'Trais yn y Cartref a Meddiant y Cartref Teuluol, adolygiad o'r gwahanol ddeddfwriaeth bresennol sy'n cynnig meddyginiaethau sifil yn erbyn trais yn y cartref.

Nis gwelir fel rhywbeth hanfodol gynhenid yn y ddynoliaeth, yn halogiad meidrol, ond fel rhywbeth a amlygid mewn troseddau moesol megis anghyfiawnder,anonestrwydd, gorthrwm, trais a chreulondeb.

Dywed Mr Patten yn glir (fel y mae CiF wedi ei ddweud ers blynyddoedd lawer) bod trais yn y cartref yn drosedd mor annerbyniol ag un a gyflawnir gan ddieithryn.

Fel dyn yr oedd Watkin yn cael ei barchu gan bawb, oblegid yr oedd yn barod i wneud daioni i bawb; yn ddyn heddychol, yn bleidiwr gwresog i'r hyn oedd deg, ac yn wrthwynebydd dewr i bob trais a gormes.

Cyn cyfarfod dydd Mercher, dywedodd aelod o Gabinet Israel, Binyamin Ben-Eliezer, fod y trais wedi cynyddu dros y dyddiau diwethaf.

Polisi tra gwahanol oedd ar dafod arweinydd glowyr Aberdâr, Charles Stanton: rhaid cynnull 'brigâd ymladdgar o lowyr' i herio trais yr heddlu a thrais y dosbarth llywodraethol, taranai.

Yn wir, ni ddylid anwybyddu Mynnodd ef wthio penderfyniad trwy'r Cenhedloedd Unedig yn condemnio'r trais ac yn galw am gadoediad yn y Dwyrain Canol.