Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tranc

tranc

Trwy godi amheuaeth am ddyfodol yr ysgol, yr oedd y gweinyddwyr yn sicrhau fod llai o rieni'n danfon eu plant i'r ysgol, a daethai tranc yr ysgol felly'n broffwydoliaeth hunan-gyflawnol.

Y mae un o awduron amlycaf Cymru wedi rhybuddio y gall tranc yr iaith Gymraeg fod yn agos iawn.

Yn fy marn i, pe ceid unrhyw fath o hunan-lywodraeth i Gymru cyn arddel ac arfer yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yn holl weinyddiad yr awdurdodau lleol a gwladol yn y rhanbarthau Cymraeg o'n gwlad, ni cheid mohoni'n iaith swyddogol o gwbl, a byddai tranc yr iaith yn gynt nag y bydd ei thranc hi dan Lywodraeth Loegr.

Nid oedd ei afiechyd yn ei lwyr gaethiwo a'i lethu: 'nawr yn llewygu ar fin tranc', meddai wrth R.

Mae caredig ferched Jeriwsalem yn arfer paratoi'r diod hwn a'i roi yn hael i'r rhai sy'n mynd i'w tranc." A synhwyrodd rhywrai o wragedd Bwlchderwin felly fod y cawr wedi rhoi un dan y belt i'r corrach?