Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

trannoeth

trannoeth

yn y gwynt a rhyw olwg arno fel tase fe'n ddiweddar i ryw gwrdd "Ddaeth e ddim 'nôl y noson honno, na bore trannoeth.

Ymhen ychydig ddyddiau cefais alwad ffôn ganddo yn dweud bod y telerau'n dderbyniol ac yn gofyn inni fynd yno ymhen pythefnos, aros am ddeng niwrnod, ac y byddai ef yn danfon ticedi inni trannoeth.

Pan ddihunodd bore trannoeth 'roedd yr haul yn disgleirio i mewn trwy ffenest agored ei ystafell wely.

Arhoses i ddim yn rhy hir, ond roedd yn falch pan ddwedes i yr awn i draw trannoeth i dorri coed tan a thacluso pethe.

'Nos trannoeth gwelid y tri yn ôl yn eu cuddfan.

Os byddai Enlli o liw llwydlas, roedd hynny yn ddigon o arwydd am ddiwrnod braf trannoeth.

Gofynnodd i mi a fuaswn yn fodlon dod yn ôl bore trannoeth i fynd dros y frawddeg gyda hi jest cyn iddi fynd i'r neuadd.

Trannoeth am dri o'r gloch y prynhawn daeth llais y Prif Weinidog, Mr Neville Chamberlain, dros y radio i gyhoeddi'r newyddion drwg fod y Rhyfel rhwng Prydain a'r Almaen wedi dehcrau.

Gofynni iddo dy arwain ar unwaith i'r fan lle y gwelodd hwynt, ond fe awgryma ef y byddai'n well i ti dreulio'r noson yn y caban ac iddo fynd â thi i ben draw'r goedwig fore trannoeth gan fod y marchogion yn dilyn prif lwybr y goedwig, ond fe ŵyr Morgan am lwybr tarw a fydd yn dy arwain drwy'r goedwig yn gynt.

Trannoeth ymwelwyd â Derwen - cwmni mawr sydd bellach wedi ehangu i Ddulyn a Llundain - oherwydd anghenion sianel Gymraeg.

Trannoeth llosgwyd ei gorff a'i holl eiddo yn lludw.

Fel y gellid disgwyl, 'roedd pryder mawr ar ein haelwyd ynglyn â'r ddedfryd trannoeth.

Aeth Mary'n ôl adref am hanner awr wedi naw fore trannoeth i wisgo'r plant a'u taclu i fynd i'r ysgol.

Bu'n rhaid cychwyn yn gynnar am y trên fore trannoeth.

Trannoeth, ar ôl i'r mistir fynd mor ddisymwth, allwn i ddim mynd lan nes bo' i'n hwyr y prynhawn.

Erbyn wyth o'r gloch fore trannoeth safai Menem, yn ei lawn daldra o bum troedfedd a phedair modfedd, wrth fynedfa Ty'r Llywodraeth, y Casa Rosada (y Ty Pinc).

Ben bore trannoeth yr oeddwn wrth ddrws y siop yn aros iddi agor.

Bore trannoeth cerddai yn ôl ac ymlaen y tu allan i'r siop, gan feddwl y byddai'n cael dechrau am hanner awr wedi chwech er mai hanner awr wedi saith oedd yr amser a drefnwyd.

Os mai llwyd ddu oedd lliw'r Ynys ac yn ymddangos yn fawr ei maint a hynny ar adeg machlud haul, bron yn ddieithriad byddai glaw trwm trannoeth.

Ar ganiad bron, y prynhawn hwnnw, fe ddaeth llwyth o gerrig o'r twll i ____, a phenderfynodd yntau ofyn iddo'r peth cyntaf bore trannoeth.

Bore trannoeth, cododd yn gynharach nag oedd ei arfer.