Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

trawiad

trawiad

Wedi penderfynu lle'r oedd y twll i fod, roedd un dyn yn dal ebill haearn, wedi ei finio fel diemwnt, a'r llall yn taro'r ebill, ac yntau yn ei droi ar ôl pob trawiad.

Fe wahaniaethir rhwng y teip yma - y damweiniol - a'r teip patholegol a achosir gan nifer o ddoluriau, fel coma oherwydd is thyroidedd, trawiad enbyd o'r galon, gostyngiad yn lefel y siwgr ar ôl i berson newynog yfed gormod o alcohol, sioc, a gostyngiad ym mhwysedd y gwaed o ganlyniad i ddamwain neu ddolur heintus fel Newmonia, ac yn bennaf mewn person sy'n wael iawn oherwydd gwenwyniad gwaed.

Hefyd y ffaith fod y meddyg wedi rhybuddio na ddylai Pengwern gysgu ar ei ben ei hun rhag ofn iddo gael trawiad ar y galon.

Ond y maent yn sicr iawn eu trawiad, yn felodaidd ac yn felys, ac yn creu'n llwyddiannus y rhith didwylledd hwnnw sy'n rhan o gamp bardd mawr, hyd ynoed pan na bydd y gân yn brofiad uniongyrchol iddo.