Darparu deunydd cyfoethogi gwreiddiol yn y Gymraeg i ategu'r ddarpariaeth greiddiol mathemateg ar sail themau trawsgwricwlaidd.
Gellir barnu i ba raddau mae'r ysgol yn llwyddo i ddatblygu'r dimensiwn Cymreig a'r themâu trawsgwricwlaidd drwy ansawdd dealltwriaeth, gwybodaeth a sgiliau disgyblion fel yr arddangosir hwy mewn gwersi ac yng ngwaith y disgyblion.
Fodd bynnag, mae angen i arolygwyr fod yn ymwybodol o gyfraniad agweddau eraill, megis cyd-wasanaethau a gweithgareddau trawsgwricwlaidd, a all fod o gymorth i hyrwyddo safonau da a datblygu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth disgyblion.
Dylai arolygwyr pwnc, felly, gyflwyno adroddiad ar agweddau ar themâu trawsgwricwlaidd a'r dimensiwn Cymreig a amlygir o fewn cynlluniau gwaith eu pwnc.
Dylai eich gwaith ymdrin ag elfennau trawsgwricwlaidd yn y Cwricwlwm Cenedlaethol.
Nododd sawl athro bwyntiau canmoliaethus a manwl: ...wedi llwyddo dehongli `jargon' y CC mewn termau dealladwy a chlir.....`themau trawsgwricwlaidd', `deimensiynau traws- gwricwlaidd' a `cymwyseddau trawsgwricwlaidd' yn enwedig...; dyma un o'r pecynnau mwya ymarferol a defnyddiol a dderbyniwyd gan yr adran erioed...
Mae'r daflen grynodeb yn cynnwys crynodeb o'r graddau a roddwyd ar gyfer yr holl wersi a welwyd, a sylwadau ar safonau cyrhaeddiad, ansawdd y dysgu, ansawdd yr addysgu a ffactorau cyfrannol, a dylai gynnwys, lle bo hynny'n briodol, farn ar gyfraniad amlwg y pwnc tuag at hyrwyddo'r dimensiwn Cymreig a chyflwyniad themâu trawsgwricwlaidd.
O ganlyniad, mae angen i arolygwyr ystyried yn ofalus y lle gorau yn yr adroddiad i ddatgan barn ynghylch agweddau ysgol- gyfan ar themâu trawsgwricwlaidd a'r dimensiwn Cymreig.
Yn ychwanegol at bynciau, mae gofyn i arolygwyr ystyried dwy agwedd arall ar y ddarpariaeth gwricwlaidd: (i) y Dimensiwn Cymreig a (ii) y themâu trawsgwricwlaidd (addysg yrfaoedd, dealltwriaeth gymunedol [gan gynnwys dinasyddiaeth], dealltwriaeth economaidd a diwydiannol, addysg iechyd ac addysg yr amgylchedd).
Lle bo hynny'n briodol, dylid cofnodi barn ynghylch ansawdd y gwaith yn y meysydd trawsgwricwlaidd hynny ar y taflenni crynodeb ar bynciau unigol sy'n rhan o Gofnod o Dystiolaeth yr Arolygiad ym mhob arolygiad.
Gall y ddarpariaeth o ran themâu trawsgwricwlaidd a datblygu'r dimensiwn Cymreig o fewn ysgolion fod ar sawl ffurf wahanol, ac efallai y dysgir rhai agweddau mewn nifer o feysydd pynciol.
Lle ceir diffyg darpariaeth ar gyfer themâu trawsgwricwlaidd a/ neu ddatblygiad y dimensiwn Cymreig mewn pynciau lle y gellid disgwyl iddynt fod wedi cael eu hystyried - yn arbennig y pynciau hynny lle ceir Gorchmynion ar wahân yng Nghymru - dylid gwneud datganiad i'r perwyl hwnnw.