Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

trefniadau

trefniadau

Gwaetha'r modd mae anafiadau wedi tarfu ar eu trefniadau nhw, hefyd.

'Roedd trefniadau gweinyddol aneffeithiol neu ddryslyd er ymdrin â cheisiadau cynllunio neu gofnodi ac ystyried gwrthwynebiadau yn broblem mewn rhai o'r achosion yr ymchwiliwyd iddynt.

Gofalwyd am y trefniadau gan Mr Dafydd ap Thomas, Ysgrifennydd y Clwb.

Er mwyn hwyluso trefniadau a gostwng llif y traffig, trefnir bysiau gwasanaeth gwennol a fydd yn teithio, um bob tua pum munud, rhwng y ddwy ysgol a'r maes.

William Howard Russell o The Times oedd hwnnw, y gŵr a fu'n byw gyda'r fyddin yn ystod Rhyfel y Crimea ac a fu'n ddigon beirniadol o'r trefniadau i ysgogi cwymp llywodraeth a denu Florence Nightingale allan i helpu.

Dymuna'r Pwyllgor ddiolch yn hael i bawb a roes gyfraniad hael mewn amrywiol ffyrdd ac am bob cydweithrediad er hwylustod y trefniadau.

Trefniadau diogel ar gyfer defnyddio, trin, storio a chludo nwyddau, deunyddiau a sylweddau.

'Rydw i wedi newid fy meddwl.' 'Beth yw eich dymuniad pe byddai rhywbeth yn digwydd i Ceri cyn i chi gael amser i wneud trefniadau eraill?' gofynnodd, er mawr syndod i mi.

Cynhyrchir catalog er mwyn hyrwyddo trefniadau sioe o ran y swyddogion, yn ogystal a rhoi gwybodaeth am y cystadleuwyr i ymwelwyr.

Efallai y byddwch yn teimlo, fodd bynnag, na all y sefydliad croesawu fodloni eich nodau, ac mewn achos o'r fath bydd y trefnydd yn trafod trefniadau eraill gyda chi.

Mae trefniadau ar y gweill i aelodau'r Cyngor eu hunain dderbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth.

Byddem fel cymdeithas am ychwanegu hefyd bod mwyafrif llethol y cystadleuwyr a'u hyfforddwyr yn hapus iawn efo'r trefniadau.

(a) Cynllun Lleol Dwyfor (Drafft) - Trefniadau ymgynghori â'r cyhoedd CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio.

A yw polisi%au'r ysgol yn hwyluso adnabod, asesu, darparu ac adolygu disgyblion ag AAA ac yn galluogi'r llywodraethwyr, y pennaeth a'r staff i werthuso effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y trefniadau.

Adrannau gwybodaeth y gwahanol lywodraethau sy'n eu cyflogi nhw a'u rôl yw gwneud trefniadau ar gyfer y ffilmio, sicrhau nad yw ffilm yn cynnwys deunydd sy'n adlewyrchu'n wael ar y Llywodraeth a gwneud yn siwr nad yw'r newyddiadurwyr a chriwiau teledu'n gwneud gwaith ysbi%o.

ADRODDIADAU ERAILL ADRODDIAD YR IS-BWYLLGOR CYMRAEG Cyfarfu'r pwyllgor bum gwaith yn ystod y flwyddyn yn ogystal a threfnu dau gyfarfod arbennig gyda swyddogion CCC Cafwyd trafodaeth gyda George Owen, Swyddog Drama C.Dd.C a'r Eisteddfod Genedlaethol, a theimlwyd fod gwelliant cyffredinol yn y trefniadau ar faes yr Eisteddfod ond fod gofyn trafodaeth bellach am rai elfennau.

* a ydyw eich ysgol wedi cytuno i'ch rhyddhau yn ystod y tymor ac a gadarnhawyd trefniadau llanw?

Gwnaethpwyd trefniadau ar gyfer ethol un i'w ddilyn.

Cytunodd Pengwern i fynd am chwe mis o seibiant ar yr amod fod trefniadau'n cael eu gwneud i dalu'r ddyled oedd ar y capel lleol a hefyd i ofalu am y plant amddifaid.

* Trefniadau undeb llafur

Trefniadau Diogelwch Drysau diogel sy'n cael eu rheoli gan staff, cardiau ID

Dylai ysgolion fod ag agweddau positif, dylent gytuno ar bolisi%au pynciau a gefnogir gan amcanion a nodau, ac fe ddylent weithredu trefniadau cwricwlaidd a threfniadol i gefnogi disgyblion ag AAA.

Cred y Gymdeithas y gall pob damwain yn y gwaith gael ei hosgoi a bydd amgylchiadau unrhyw ddamwain, boed honno yn un a arweiniodd at niwed neu beidio, yn cael eu harchwilio a lle bo modd, cymerir camau gan y rheolwyr i leihau'r posibilrwydd o ddamwain debyg yn ailddigwydd, (a gweler Trefniadau Argyfwng).

vii) sicrhau bod pob aelod o staff yn gwybod beth i'w wneud os bydd tân, yn gwybod ble mae cyfarpar diffodd tân wedi'i leoli a sut i'w ddefnyddio os bydd angen; cymryd cyngor yr Awdurdod Tân o bryd i'w gilydd; profi'r trefniadau Dril Tân yn achlysurol trwy gynnal ymarferion (i'w trefnu gan y Cyd-Gysylltydd Iechyd a Diogelwch), a phob ymarfer i'w gofnodi mewn Atodiad i'r Polisi Diogelwch hwn;

(c) Ardaloedd Menter Arfaethedig yn Nwyfor - Y Trefniadau Cynllunio CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio.

Roedd y noson yng ngofal y Cyngor Llyfrau Cymraeg ac roedd ôl graen ar y trefniadau.

A yw trefniadau ar gyfer adnabod a chynorthwyo disgyblion ag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol (AEY) yn cael eu cydlynu â threfniadau AAA eraill?

Yn anffodus, oherwydd blerwch y trefniadau, chawson ni ddim cyfle i'w ffilmio.

Ac fe ddylair cynnig ddilyn patrwm trefniadau Cwpan Rygbir Byd.

O fewn y Cynulliad ei hun, credwn y byddai'n fanteisiol iawn sefydlu Pwyllgor arbennig i fonitro a gweithredu'r Polisi Dwyieithog yn yr un modd ag yr argymhellir trefniadau yn y Papur Ymgynghorol i fonitro ymddygiad a safonau aelodau'r Cynulliad.

Er bod swyddogion yn honni bod cyfleusterau "gwych" yno, doedd dim trefniadau pendant ddechrau'r wythnos i gludo pobol yn ôl ac ymlaen.

Mae'n siwr mai yr un fydd trefniadau'r is-bwyllgor eleni, sef cynnal noson i godi arian tuag at y chwaraeon rhanbarthol.

Ond, bellach, gyda gwasanaeth cwmnïau fel Easyjet - sydd gyda llaw yn derbyn dros 90% o'r trefniadau dros y we, sef yr ucha' yn y diwydiant - mae rhyddid gan y defnyddiwr i greu pecynnau unigol wedi'u teilwrio'n arbennig i ofynion y teithiwr.

Rhaid fydd symud heb oedi, ac efallai y caf air oddi wrthynt eu bod yn barod i ufuddhau, a'u bod hwy yn ffurfio pwyllgor lleol i gwblhau'r trefniadau, os bydd angen am hynny.

* cadarnhewch y trefniadau ar gyfer yr ôl-drafod.

Rydw i wedi bod yn cael cais yn aml o'r blaen i wneud y math hwn o waith ond dim yn Ne Affrig, felly roeddwn i'n falch i fi wneud trefniadau i rywun ofalu am fy musnes yn Aberogwr yn fy absenoldeb.

A yw trefniadau'r ysgol yn galluogi disgyblion i wneud y cynnydd mwyaf posibl, gan sicrhau bod cwricwlwm eang a chytbwys ar gael, yn cynnwys y Cwricwlwm Cenedlaethol, addysg grefyddol, lle bo angen hynny'n gyfreithiol, ac unrhyw ddarpariaeth gwricwlaidd arall?

Pe ceid neges neu alwad ffôn yn honni bod bom wedi'i gadael ar eiddo'r Gymdeithas (h.y mewn swyddfeydd, hostel) a bod y neges yn ymwneud â'r adeilad hwnnw, yna mae'n rhaid gwacau'r adeilad ar unwaith yn unol â'r trefniadau ar gyfer tân.

Mae hyn yn arbennig o bwysig am fod y Gymdeithas wedi clywed o ffynhonnell ddibynnadwy fod y trefniadau cyfieithu ar gyfer y Cynulliad yn dipyn o draed moch ar hyn o bryd.

Wnaeth hi ddim petruso o gwbl ac am fod ganddi gar gofynnais iddi alw am Mrs West a Mrs Dixon hefyd Ffonio Mrs Dixon i adael iddi wybod am y trefniadau a hithau; chwarae teg iddi, yn ymddiheuro am y tro anffodus wythnos i heddiw.

Dyma'r noson a ddewisodd i grynhoi'r trigolion at ei gilydd i drafod y trefniadau.

Walk with Will oedd yr enw ar y trefniadau poblogaidd.

I drigolion Cymru, yn enwedig y gogledd, roedd nifer o'u cyd wladwyr yn cynnig hyrwyddo'u trefniadau teithio.

Gair i gadarnhau'r trefniadau ar gyfer y cystadlaethau uchod.

'Roedd ei thad a hithau i ddod i Dyddyn Bach ar y pymthegfed i wneud trefniadau at y briodas a oedd i gael ei chynnal cyn diwedd y mis.

Ffoniodd Glyn Ebwy y gwesty lle roeddan nhw'n aros i wneud trefniadau prydau bwyd.

Cyn hynny bratiog oedd y trefniadau i addysgu plant.

Trefniadau diogelwch Mae pawb yn adnabod ei gilydd ac fe fyddai bydwraig neu nyrs ffug yn cael ei gweld yn syth.

Felly byddai trefniadau wedi eu gwneud i gyfarfod mewn rhyw glwb arbennig ymhellach ymlaen.

Gwnaed y trefniadau yn ddiymdroi a chynhaliwyd yr ornest ar fferm Rhosigor y Sadwrn olaf o Fawrth.

Y rheswm pennaf efallai yw'r trefniadau amherffaith yn y ffermdai hynaf sy'n gadael y ddau ryw ormod gyda'i gilydd a hynny hyd yn oed yn y nos'.

Mae trefniadau ar y gweill i aelodaur Cyngor eu hunain dderbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth.

Yr oedd gofyn gwneud trefniadau ar unwaith rhag ofn y byddai eraill yn dioddef yr un dynged.

Trefniadau Diogelwch - Cloi drysau'r uned ar ôl deg y nos, camera ar y drws i weld pawb sy'n cyrraedd, camerâu eraill yn gwylio'r ward, clo digidol ar y feithrinfa, cardiau adnabod a sustem i'r mamau nodi hynny os ydyn nhw'n gadael y ward.

* Trefniadau prydau bwyd

Ond mae hyn yn enghraifft berffaith o'r angen i ymateb i'r her a chreu trefniadau cadarnhaol newydd i alluogi ysgolion pentref i gyflawni eu gorchwylion yn effeithiol.

O ganlyniad i'r trefniadau presennol, mae problemau dosbarthu yn amlygu eu hunain yn aml, gydag enghreifftiau lu o drafferthion ynghlwm wrth y broses o gael adnoddau o'r canolfannau neu'r cyhoeddwyr i'r ysgolion.

Ar hyd a lled Cymru, mae rheolwyr ysbytai a wardiau mamolaeth yn edrych eto ar eu trefniadau diogelwch yn sgil yr hyn ddigwyddodd yn Nottingham.

A oes trefniadau ar gyfer monitro a gwerthuso hyn?

Gan fod ganddi docynnau awyren, a chan ein bod ninnau'n gadael ar y dydd Iau, gwnaethpwyd trefniadau i ni gasglu Siwsan a'r plant o'u cartref yn gynnar yn y bore a'u hebrwng yn ôl i Gymru.

A yw trefniadau'r ysgol yn annog yr holl ddisgyblion i gyfrannu tuag at fywyd yr ysgol ac i dderbyn cyfrifoldebau?

Ychwanegodd bod y trefniadau ariannol yn edrych yn gadarnhaol ond nad oedd sicrwydd o'r sefyllfa hyd ganol Rhagfyr, ond bod yn barod symud ymlaen gyda'r pryniant yn syth.