Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

trefniant

trefniant

amcanion y gweithgarwch, a nodi at blant o ba oedran a gallu y cyfeirir ef nodiadau ar y drefn a ddefnyddiwyd a sylwadau ar anawsterau tebygol wrth ymdrin â'r plant a'u deallusrwydd trefniant a dosbarthiad y cyfarpar sampl o ganlyniadau a gafwyd wedi eu trin yn fathemategol briodol cyflwyniad o luniau, graffiau, sylwadau, etc.

Y trefniant oedd fod y cyfarfodydd chwarter yn enwebu rhai ar gyfer y swydd.

Y diwrnod canlynol, es yn ôl y trefniant ar y "tiwb" i gyfarfod â Peter erbyn canol y p'nawn, ac yna i ffwrdd a ni i godi Larry, myfyriwr o Americanwr a oedd hefyd am ddod gyda ni.

Petai ei gyfreithiwr yn ceisio gwneud trefniant o'r fath, byddai'n debyg o'i gael ei hun yng ngharchar.

Bod apêl i'w chyfeirio at yr unrhyw gymdeithasau am eu cyd-weithrediad i sicrhau trefniant safonol o'r alawon gosod.

Fel "trefniant gwerinol" o offeren y Nadolig y disgrifiodd un aelod o'r côr ef i mi.

Mantais trefniant o'r fath yw hybu cydweithrediad, ond y berygl amlwg yw ei bod yn haws cau un 'safle' o ysgol nac i gau ysgol gyfan.

Wedi'r cwbl, y trefniant a wnaethpwyd efo'r cwmni oedd y buasai'r bws yn ôl yn y garej erbyn chwech.

(a) Llythyr gan Cyngor Cymuned Llanengan yn gofyn beth oedd y trefniant.

Cyflwynwyd trefniant o flodau a luniwyd gan Mr H M Jones Hen Golwyn i Mrs Jones yn ystod y cyfarfod gan Bethan Lewis.

Efallai yr hoffech ddefnyddio camera neu recordydd tâp ar ôl gwneud trefniant ymlaen llaw gyda'r sefydliad croesawu.

Y profiad hwn a roes fod i egwyddorion sylfaenol y trefniant nodau graddedig

"Ofynnais i ddim am...am...y trefniant yma.

Trefniant nodau graddedig yn ei hanfod yw'r Cwricwlwm Cenedlaethol Gosodir deg lefel o dargedau fel nodau i'r plant, ac yn ôl y lefelau hynny yr asesir eu cynnydd.

Trefniant i reoli posteri a rhybuddion a welir wedi eu gosod ar bolion trydan a.y.b.

Morris yn barod i symud yno o Sylhet am gyfnod mor fyr â chwe mis; y drwg oedd bod Pengwern yn gohirio'i ymadawiad nes bod trefniant pendant wedi ei wneud i ofalu am ei orsaf.

Y syniad oedd y byddem i gyd yn cael rhywfaint o gwsg yn ôl y trefniant hwn.

Ac yn ôl y ffordd y buoch chi'n ymddwyn, rydw i'n siŵr mai'r trefniant hwn sy orau gennych chi." Gwelodd ei gorff yn tynhau.

Cyfeiriodd at gwestiwn y llynedd ynghylch trefniant gwaredu gwastraff i'r dyfodol drwy ddweud bod y Cyngor wedi derbyn dau dendr ac wedi ystyried adroddiad manwl ar y tendrau.

Gwreiddiau Trefniant y Nodau Graddedig