Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

treftadaeth

treftadaeth

Pa hawl foesol oedd ganddo i ddiwygio treftadaeth y tadau a newid adeiladwaith bro?

Yng ngallu grymus ei chof yr oedd Sarah Owen yn ymgysylltu â'r werin Gymraeg cyn i honno fynd i ysgolion Griffith Jones, Llanddowror, ac yng nghyfoeth lleferydd ei thafod, yr oedd yn uno treftadaeth hen ddiwylliant Twm o'r Nant â diwyllinat newydd Charles o'r Bala.

Ceir yn y bryddest linellau a darluniau a aeth wedyn yn rhan o'n treftadaeth: Heintiau'n cyfarch hetiau'n fonheddig, Gwenau'n dinoethi dannedd ar y stryd.

Oherwydd iddo barchu treftadaeth ei ardal y mae'n parchu'r iaith a chrefft y llenor: myn hefyd fawrygu ac amddiffyn ei dreftadaeth, a diddanu ei gyfeillion, a chofnodi'i edmygedd o'i etifeddiaeth hen.

Yr oedd yna gnewyllyn ymysg y Methodistiaid ar ddechrau'r ganrif yn eirias sylweddoli'r cyfrifoldeb a osodwyd arnynt i amddiffyn eu treftadaeth.

Fe fyddai yntau'n sôn am ryddid, ond nid eu rhyddid hwy eu dau a fynnai ef ond rhyddid i'r Cymry wneud yr hyn a fynnent â'u treftadaeth; yr oeddent hwy eu dau yn Gymry, a pha fath o dreftadaeth oedd ganddynt?

David Mellor, yr Ysgrifennydd Treftadaeth, yn ymddiswyddo ar ôl cael ei gyhuddo o odinebu gyda'r actores Antonia de Sancha.