Doedd yna ddim ysbrydion ym Mlaenau Ffestiniog pan oeddwn i yn hogyn yn y tridegau - dim bwganod go iawn.
Ond roedd y byd hwn yn chwalu cyn i mi gael fy ngeni, ac yn chwilfriwio'n gynyddol gyflym trwy gydol y tridegau, y pedwardegau a'r pumdegau.
Rhan o'r deffroad hwn oedd y Cymdeithasau Taleithiol; ond rhan arall, fwy arwyddocaol o bosibl, oedd y cymdeithasau Cymreigyddol a gododd fel grawn unnos trwy'r wlad yn ystod yr ugeiniau a'r tridegau, ac yn enwedig yn y cymunedau diwydiannol newydd yn ne-ddwyrain Cymru, a oedd yr adeg honno bron yn uniaith Gymraeg.
Mae cytundeb pur gyffredinol erbyn hyn ymysg llenorion a beirniaid llenyddol ein gwlad fod Gruffydd yn un o brif feistri rhyddiaith Gymraeg ac y mae dwy gyfrol a gyhoeddwyd ganddo yn y tridegau yn dangos hyn yn glir, sef Hen Atgofion, rhan o'i hunangofiant, a'r gyfrol gyntaf o gofiant OM Edwards.
Gadawodd yr ysgol i weithio gyda chwmni Crosville, gan fod prinder gwaith yn y tridegau.
Dwy Lenyddiaeth Cymru yn y Tridegau - Dafydd Johnston
I ni aelodau ieuainc y Blaid yn y tridegau, JE oedd y Blaid a'r Swyddfa ym Mhendref oedd ein Meca.
Yr wyf yn amau nad oedd gan ein gwron fawr o amynedd chwaith at ei gyfoeswyr ymhlith y beirdd yr oedd cynffon y weledigaeth hon yn chwipio'u dychymyg, sef y rhai megis Saunders Lewis a Gwenallt a fynnai gysylltu'r Gymru oedd ohoni yn y tridegau gyda rhyw Gymru reiol ufudd-Gristionogol mewn gorffennol di-ffaith.
Mae un o'r pererinion yn ateb drwy ddweud fod cyfalafiaeth a diwydiant yn hagru'r wlad, a chyfeirir at ddiweithdra'r tridegau ynddi hefyd.
Ar dudalennau'r Llenor, gydol y dauddegau a'r tridegau, cynhaliwyd trafodaeth ar Hanes Cymru, hanfodion Cymreictod a pherthynas Cymru ag Ewrop rhwng Saunders Lewis ac Ambrose Bebb ar y naill law, y ddeheulaw, a W. J. Gruffydd ac R. T. Jenkins, ar yr aswy.
Yr oedd hyn ddiwedd y tridegau pan oedd carcharau yn garcharau fel y byddai'r mwy traddodiadol yn ein plith yn dweud.
Ar y ffordd yn ol i Delhi ar y tren, cael sgyrsiau diddorol ag Indiaid - un wedi bod yn 'UK', a'r lleill, gŵr a gwraig yn eu tridegau, heb fod, ac yn llawn cwestiynau athronyddol am briodasau wedi eu trefnu, Margaret Thatcher, trenau Prydain, ac ati.
Dim ond ar un tro yn y Tridegau cynnar y troes un trip yn chwerw a thrist.
Os golygir mai troedigaeth SL yn y tridegau a arweiniodd rywsut at Penyberth a'i daflu ef i 'eol y gelyn', yna beth yw ystyr y 'carchar a'r seler ddilawnter dan lif anafon' yn y pennill cyntaf, cyn dyfod 'Arthur i'th arbed di'?
Lerpwl oedd y man cychwyn mordeithiau rhai miliynau o ymfudwyr yn y ganrif ddiwethaf - dros naw miliwn rhwng tridegau'r ganrif diwethaf a'r ganrif hon.
Yr argraff a gefais yn fy Ysgol Haf gyntaf oedd ei bod yn ddealledig y dylai holl sbectrwm gweithgarwch cenedlaethol fynd trwy unig sianel Plaid Cymru, a chredaf i hynny fod yn briodol yn y tridegau a'r pedwardegau pan oedd holl ddyfodol Cymru fel cenedl yn dibynnu ar lwyr ymroddiad dyrnaid bychan o bobl, ac mai felly'n unig y gellid gwneud pryd hynny.
Chafodd Dora Williams, Cerrig Gleision 'rioed fabi, na gwr iddi'i hun, ac wedi colli ''rhen bobol' yn nechrau'r tridegau ymrodd i droi tyddyn caregog yng ngwynt Porth Neigwl yn amgenach tir ac i fagu stoc a ddenai borthmyn yno o bellter mawr.
Sonia R. T. Jenkins yn un o'i lyfrau am borthmyn y ddeunawfed ganrif yn gyrru'r gwartheg drosodd o Gymru i ffeiriau Lloegr; nid gwartheg a yrrwyd o Gymru i Loegr yn y tridegau ond hufen pobl ieuanc y genedl.
Erbyn diwedd y tridegau 'roedd yr awyr yn duo uwch Ewrop.
Yn ystod y tridegau y magwyd syniadau Pero/ n, y gwr a oedd i osod agenda wleidyddol Ariannin am drigain mlynedd.
Fe'i ganwyd yn y tridegau yn nhalaith wledig La Rioja, yn fab i fewnfudwyr o Syria.
Nid oedd cymaint a hynny o wahaniaeth rhwng Llŷn y tridegau cynnar a'r 'lle i enaid' yr oedd J.
Ond fe gytunir bid siwr, mai un o orchestion mwyaf John Eilian oedd ffurfio'r cylchgrawn rhyfeddol hwnnw, Y Ford Gron a ddaeth allan yn y tridegau cynnar.
Yn Lloegr yn y tridegau cafwyd gweithiau Arthur Eddington, Edmund Whittaker, James Jeans, Bertrand Russell ac eraill a lwyddodd i gryn fesur i gyflwyno darganfyddiadau ffisegol y dydd mewn iaith ddealladwy i ddarllenwyr difathemateg.
Y mae'n amlwg fod nodi beth yw priod waith y prydydd a'r artist yn fater o bwys mawr i Alun Llywelyn-Williams yn y tridegau, ac wedyn.
Soniwyd amdano ar y pryd, sef tua diwedd tridegau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r pedwardegau, fel un a oedd mewn cysylltiad agos â'r grŵp o bregethwyr ifainc a ddaeth dan wg brodyr yr hen ffydd 'iach' yn Sir y Fflint.
Yn y tridegau cynnar bu bri ar Ddosbarth Siaradwyr a drefnid gan Gangen y Brifysgol a Changen Dinas Bangor ac fe i cynhelid ar brynhawn Sadwrn mewn caffi ym Mangor Uchaf.