Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

trigolion

trigolion

Daeth rhyw dristwch drosof o weld bod yr hen bwll wedi'i gau a bod y trigolion yn baldorddi estroniaeth lle gynt, yn yr ugeiniau, Cymraeg a glywn.

trigolion Lianaelhaeam dros gadw ysgol y pentref ar agor.

Ar yr wyneb stori yw am ddieithryn sy'n dod i godi ei babell mewn pentref bychan a'r holl anghydfod mae hynny'n ei achosi ymhlith y trigolion.

Pan oeddwn yno yn nhalaith Efrog Newydd digwyddai fod cryn sôn fod disgynyddion y brodorion yn gwneud ymholiadau cyfreithiol i edrych a oedd posib iddynt gael eu tiroedd yn ôl, a doedd hynny ddim yn plesio y trigolion presennol.

Yma, fwy neu lai, roedd yr 'hafanau diogel' a sefydlwyd ar awgrym John Major er mwyn ceisio gwarantu diogelwch y trigolion.

Y trigolion olaf yn gadael Nant Gwrtheyrn.

Nid oedd digon o'r goresgynwyr hyn yn y rhan hon o Gymru i ddylanwadu llawer ar fywyd y trigolion.

Aeth trigolion y pentrefi gwasgaredig a'r ffermydd pellennig i lawr i'r dref i drwst y ffair.

Cawn hefyd ddisgrifiadau manwl o'r ffordd y mae trigolion yr ardal yn ymateb i ddiflaniad Margaret a hanes cyflawn y golygfeydd yn y capel pan gyfyd cwestiynau am ei hymddygiad.

Ffurfiwyd pwyllgor i geisio amddiffyn buddiannau'r trigolion.

Yr oedd trigolion Eifionydd hwythau'n gobeithio y byddai'r cynnwrf yn eu cyrraedd cyn bo hir.

Er bod yna wrthwynebiad i'r ardd ymhlith y trigolion lleol sydd wedi gweld cynydd yn y lefelau o draffig, dywedir bod y cynllun wedi dod â £10m i'r economi.

Ffanffer ydyw sy'n gorffen yn ddisymwth, fel y gwnaeth, yn ôl y chwedl, ganrifoedd yn ôl pan laddwyd y trwmpedwr a oedd wrthi'n rhybuddio'r trigolion fod milwyr estron y Tartar gerllaw'r ddinas.

Yr oedd trigolion Prydain, hefyd, yn amharod i ysgwyddo'r cyfrifoldeb am y pechod a ddug y fath alanastra ar y byd.

Fydd trigolion y Waen Winau ddim uwch bawd sawdl.

Tua chanol dydd, ac yntau'n teithio trwy un o'r pentrefi, a'r trigolion yn synnu a rhyfeddu o weld y bêl yn ei arwain, daeth ar draws crwydryn yn eistedd wrth ochr y ffordd.

Bu'r traffig trwm drwy'r pentref, yn enwedig yn yr haf yn bryder mawr i'r trigolion, ac yn beryglus iawn lawer tro.

Gan nad yw'n arfer yn Lloegr i roi unrhyw sylw yn yr ysgolion i'r diwylliant Cymreig, y mae trigolion y wlad honno at ei gilydd mewn anwybodaeth lwyr am gynnwys y diwylliant sy'n cael ei drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.

Nodwyd yn Adran 3 rai ystadegau sy'n dangos lleihad parhaus yn yr ardaloedd lle mae 70% neu fwy o'r trigolion yn gallu siarad Cymraeg.

Rhoddodd yr argraff - yn annheg efallai - fod un o weinidogion tramor gwledydd Prydain mor anymwybodol o sefyllfa'r bobl hyn ag yr oedd Marie Antoinette pan awgrymodd y dylai trigolion di-fara Paris fwyta cacennau.

Yr agwedd bositif hon ymysg y trigolion lleol sy'n fesur o lwyddiant yr Antur.

Mae rhai o'r trigolion yn meddwl fod y frwydr am Stanley eisoes yn mynd ymlaen.

Dangosodd optimistiaeth a gorhyder ffôl, wedyn, trwy fynnu, yn groes i bob cyngor doeth, ymweld â Dallas, lle 'roedd y trigolion yn ei gasa/ u?

Mae trigolion Amlwch ym Môn yn gwybod ei bod yn bosibl tynnu cemegau allan o'r môr (mae ffatri cynhyrchu bromin yno) a hefyd mae yn bosibl defnyddio tipyn o ynni'r môr er mwyn creu trydan i'n diwydiannau a'n cartrefi.

Ond daeth trigolion Aberystwyth o dan ei lach yn waeth fyth.

Cododd hyn awydd ar y trigolion i agor yr arch, ac fe gawsant bod corff Ann Parry yn berffaith ddilwgr.

Roedd hi ychydig bach ar ôl saith o'r gloch yn y bore ac roedd trigolion hen dref Kotor yn paratoi ar gyfer y dydd a oedd o'u blaen.

Mae'r ugain gweithiwr llawn amser a'r pump aelod staff yn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr i'r pentrefwyr a gweddill trigolion Arfon.

Ac eto, o gofio ymateb trigolion un pentref yn ddiweddar, mae'n ymddangos fod rhai pobl o hyd yn rhyw led-gysylltu'r ysgub â galluoedd goruwchnaturiol.

Er mai Saesneg oedd yr iaith swyddogol a orfodwyd o du allan, trwy gyfrwng y Gymraeg y bu i'r trigolion hyn ymwneud â'i gilydd a diffinio eu hunaniaeth.

Ynddo ceisiodd egluro sut y ffurfiwyd yr ynys wedi'r Dilyw, a holai beth oedd iaith y trigolion, ai o'r Hebraeg y tarddodd y Gymraeg: disrifiodd gyfraith a chrefydd gynnar yr ynys, athroniaeth a defodau'r Derwyddon, eu tamlau, eu hallorau a'u canolfannau yn y llwyni derw, gan atgynhyrchu'r lluniau o'r henebion derwyddol a gynhwysodd yn ei atebion i Queries Lhwyd.

Aeth rhin y traddodiad hir hwn i waed y trigolion.

Er bod trigolion tiroedd y meddiant hefyd yn ofni canlyniadau'r rhyfel, fe'u calonogwyd gan y posibiliadau.

Edrychodd y trigolion ar eu heiddio, ar eu perllannau a'u hanifeiliaid.

O'r terfysgwyr i gyd, 'doedd dim amheuaeth mai trigolion Tipperary oedd y ffyrnicaf ac alltudiwyd nifer fawr o Dde Iwerddon i gyfnodau hir o benyd wasanaeth.

Ni byddai fy nhad yn caniatau i ni'r plant gario clecs neu glaps am neb o aelodau'r capel nac am unrhyw un o'r trigolion.

Os haul yw pob rhyw seren sy'n gwibio yn y ne' Os cylch y rhain mae bydoedd, a lloerau'n cadw eu lle, Od oes trigolion ynddynt, neu ynte nid oes un, Y cwbl oll a grewyd gan fysedd Mab y Dyn.

Pobol groesawgar ydi trigolion Santorini – ac mae'n braf gweld na lyncwyd y lle gan fasnach.

Er mwyn gallu codi'r holl arian yma, rydym wedi bod yn golchi ceir staff yr ysgol, a trigolion y pentref, cynnal boreuon coffi, ac ar fore yr eisteddfod ysgol eleni, fyddwn ni yn cychwyn ras balwns, a fydd yn cael ei ffilmio gan HTV.

Bangor R. Tudur Jones Pobl a ddeuai o ben pellaf Môr y Canoldir yw'r trigolion nesaf y mae eu holion i'w cad yng Nghymru.

Pen-llyn yw enw'r trigolion arno bellach.

Tybed a all trigolion Gwaun Cae Gurwen fancio ar gefnogaeth Syr Anthony Hopkins i'w hymgyrch i gadw banc Barclays y pentref yn agored.

Doedd dim rhaid i'r trigolion drafod ei neges a gwyddent bellach o pa lwybr i'w gymryd.

Mewn un rhan, sy'n cynnwys chwe mil o bobl, mae Oxfam yn cynnal arbrawf i geisio gwella bywydau'r trigolion.

Dyma'r noson a ddewisodd i grynhoi'r trigolion at ei gilydd i drafod y trefniadau.

Mae'r gwrthdaro'n amlwg trwy'r ddrama; gwrthdaro rhwng tawelwch Daz, y dieithryn, a chlegar y trigolion 'naturiol'.

Os cofiwch chi, mi roedd tipyn o strach ynglŷn â'r ffilm wreiddiol (gyda Hywel Bennett yn y brif rhan) oherwydd bod trigolion yr Aber(ystwyth) go iawn yn poeni y byddai twristiaid yn ofni dod i'r dre o'i herwydd.

Neilltuwyd rhan arall o'r iard ar gyfer trigolion y stryd agosaf.

Mi aeth trigolion Glan Aber, Porth Tywyn, at yr heddlu i gwyno am y bachgen, sy'n cael ei alw'n lleol yn Dick Turpin.

Fel y gwelsom yn y bennod flaenorol, mae'n dra thebygol fod yn well gan y mwyafrif o'r trigolion gynt fynychu'r Twmpath Chwarae ar y Suliau, yn hytrach na mynd i'r Eglwys.

Roedd y tir yn garedig, y terasau'n daclus ac roedd muriau cadarn yn gwarchod y trigolion.

Rwsia yn defnyddio tanciau i orfodi trigolion Hwngari i ddod â'u gwrthryfel i ben.

Y mae trigolion trefi glan môr yn y gogledd yn cwyno fod gwylanod yn bla yno.

Yn ystod pedair blynedd olaf ei oes faith bu fy nhad yn byw gyda ni mewn Tŷ Ysgol yn yr hen Sir Drefaldwyn a daeth yn ffefryn gyda'r plant a'r trigolion eraill yn y pentre.

Digon dirmygus oedd trigolion y dre o'n safiad.

Ymhen munudau roedd trigolion Kotor wedi dilyn yr anifeiliaid.

Roedd y cyfarfod ei hun yn dipyn o achlysur - yn ffrwyth bron i flwyddyn o lythyru, e-bostio a ffonio wrth geisio cysylltu â chynrychiolydd democrataidd (eto'n rhyfedd o ddirgel) trigolion Gorllewin Casnewydd.

Mae'r trigolion, Mrs Jones, Mr Morris, Miss Parry a Mr Robaits, yn siarad gydol yr amser, ond dydyn nhw'n dweud dim.

Pryddest am ddiboblogi cefn-gwlad, wrth i'r ddinas hudo trigolion y wlad, ac am farwolaeth hen ffordd o fyw.

Ar waethaf anlladrwydd y trigolion - yr oeddynt yn ddigon wynebagored yn ei gylch fel y prawf y lluniau yn nhai'r puteiniaid ac yng nghartref y brodyr Vitti, yr oedd y trefwyr yn gosod pwys mawr ar lendid corff ac ar iechyd.

Mi roedd y trigolion wedi cael llond bol ar ymddygiad y bachgen ac wedi dwyn y mater i sylw'r heddlu yn ystod cyfarfod o Gwarchod y Gymdogaeth.

Erbyn i ti ei dal, mae'r pentref i gyd wedi dihuno a phan wêl y trigolion dy fod yn cydio yng ngwraig Alcwyn cred rhai ohonynt dy fod yn ymosod arni.

Gallwn grynhoi felly trwy ddweud fod yr eglwysi'n sefydliadau neilltuol gryf yn Eifionydd ac yn ddylanwad grymus iawn ar fywydau'r trigolion.

Fe ellir profi blas yr olygfa heb wybod ail i ddim am y trigolion, ddoe a heddiw.

Mi ddes i yma, fel y gwyddoch chi bellach, i gadw llygad ar Twm Dafis ac i geisio holi'n ddistaw bach ymhlith y trigolion a oedden nhw wedi sylwi ar wynebau dieithr hyd y fan yma yn ddiweddar.