gobeithient, trwy redeg ar draws y cae, gyrraedd y safle manteisiol hwn o flaen eu llongau, ac os byddai 'r rheini 'n dal i fynd aent ymlaen at bont trillwyn, a 'r llong gyntaf dan y bont fyddai 'n ennill.
trillwyn ucha oedd y lle agosaf ond ni wyddai 'r un o 'r tri a oedd yno deleffon.
yr oedd eira chwefror a glawogydd tros w ^ ŵyl ddewi wedi chwyddo nentydd yr ardal a chreu rhaeadrau yn hafnau 'r bryniau, a 'r cwbl yn llifo i afon afon nes ei bod hi, erbyn cyrraedd y dyffryn lle safai aberdeuddwr, yn genllif gwyllt gwyn, ar frys i gyrraedd y dolydd tu hwnt i trillwyn isa lle gallai orlifo i 'r caeau a chael ymwared a 'i ffyrnigrwydd.
pan oedd o 'n agosau at bont trillwyn a newydd newid gêr i fynd yn araf drosti oherwydd ei chulni, petrusodd y peiriant unwaith neu ddwy ac yna gwrthododd danio o gwbl.