Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

trio

trio

'Trio'n dychryn ni maen nhw,' meddai'r gweinidog.

Nhad wedyn yn trio codi'r blancedi efo'r llaw oedd yn dal y 'long johns', ia dyna'n union ddigwyddodd, fe ddisgynnodd y 'long johns' am ei draed, a nhad yn sefyll yng nghanol y 'stafell yn union fel daeth i'r byd.

Hynny yw, maen nhw'n dal yn glyfrach ond ddim yn trio.

Roedd hitha 'di trio ambell beth unwaith neu ddwy, a mwynhau uchelfanna'r profiad: crwydro'r bydysawd, yn lliwia a syna o bob math; teimlo'n hollol tu allan iddi'i hun; colli gafael arni'i hunan, ar amser a lle ...

R'yn ni'n trio gwitho'n galed a joio hefyd." Mae Rhys Evans sy'n actio'r prif gymeriad ar y llwyfan bron trwy gydol y perfformiad - dyna pam yr aeth Laurel Davies am ddisgybl chweched dosbarth ar gyfer y gwaith.

Trio'u hel nhw o'na mae o.

Mi fuon nhw'n rhedag ar ein hola ni'r genod wedyn, yn trio tynnu Mrs Robaits efo ni, edrach fasa hi'n mynd i ganol y dŵr.

Meinaps fel arfar yn trio bod yn glyfar!

Mae'n bosib bo nhw ddim wedi trïo'n rhy galed yn erbyn Seland Newydd a chadw'u chwaraewyr gore i'r ddwy gêm bwysica iddyn nhw.

Nid trio dweud ni'n well na rhywun arall a bod gennym ni ryw neges ddwfn ydym ni.

'Be wyt ti'n feddwl o garcharu Vatilan druan am beidio trio dy ladd di 'ta?'

Mae e wastad yn trïo creu yr annisgwyl a mae e wedi gwneud gwaith da gyda chlwb Castell Nedd.

Dydw i ddim wedi trio fy hun ond yn ôl haid o wyddonwyr o Brifysgol Llundain fedrwch chi ddim goglais eich hun.

Ond dim ond un cwpan oedd yn y tŷ, felly mi fydden nhw i gyd yn trio yfed o'r un cwpan.

Heblaw trïo stopio tacsi yn Aberystwyth unwaith efallai... ond stori arall ydi honno.

Ac fel y tystiodd Robat Robaits, Tanbryn, wrth rai oedd yn trio cynghori Ifan, 'Waeth i chi heb, deulu.

Meddyliais bod Bholu wedi cychwyn colli arni - fedrwn i ddim ond dychmygu sut fuasai hi petawn i'n trio gwneud hynny yn Heathrow.

Doedd dim i'w wneud ond trio edrych yn eofn a doeth a gwneud yn union yr hyn a wnai Jan o Wrecsam a eisteddai ar y lifft o 'mlaen i.

Ydach chi wedi gweld fy mag i yn rhywle?' Mae hi'n trio gwthio prês i fy llaw.

Dreif on.' 'Ella ma' trio rhoi ar ddallt i ti roedd hi ma' boddi 'nath y Captan.' 'Nid boddi 'nath o.' 'Dyna ddeudodd Timothy Edwards pan ddaeth o yma hefo'r stori - syrthio dros ochor y llong, medda fo, pan oedd o'n homward bownd o'r gwledydd pell 'na, a boddi yn y dyfnfor.'

Ond dim ond un beic oedd ganddyn nhw, ac mi fydden nhw i gyd yn trio mynd ar gefn yr un beic.

"Mae Cyngor y ddinas yn trio ond dydech chi ddim yn ennill pleidleisiau trwy helpu'r digartref nad ydych?" All o ddim ond dyfalu beth sy'n mynd trwy feddyliau y bobl hynny fydd yn ddigartref dros y : feddy "Un o nodweddion amlycaf y digartref yw anobaith.

Darfu hynny wella dim ar ei dempar o, a thra oedd o yn trio tawelu'r ddau yrrwr ac edrach faint o dolciau oedd yn eu cerbydau nhw, mi gefais gyfla i'w gwadnu hi odd'no.

Mae Joe Swail yn trïo'o orau i gadw'r roced, Ronnie O'Sullivan, o fewn cyrraedd.

Alan Llwyd, Gerallt Lloyd Owen a Dic Jones - dyna'r tri rydw i wedi trïo eu hefelychu nhw.

'Ddaru o ddim trio'i orau, wyddoch chi.

'Mae pob gair i fod yn briodol, a'ch gwaith chi ydi gwneud i'r geiriau yna, y stori yna, weithio, heb dynnu'r ffocws oddi ar beth mae'r cyfarwyddwr, yr awdur a'r actorion yn trio'i gyflwyno...

Ac wedi iddi fynd i'r hwyl, dyma hi'n deud peth fel hyn: "Os y bydd rhywun yn trio'ch treisio chi, dydy o ddim yn beth doeth i wrthwynebu gormod." Wrth gwrs, mae cyfla yn beth mawr, chwadal nhwtha, ac mi sylwais ar y diwadd, pan oedd pawb yn ei holi hi, na ddarfu neb feddwl gofyn a oedd hi wedi cael y profiad ei hun.

A gweld Budgett a Wyatt yn trïo ennill y bêl ar dafliad yr Unol Daleithau.

Y newyddion drwg i'r rhai hynny sy'n trio cadw llygaid ar eu siap ydi mai yn y siocled drutaf y mae'r lleiaf o galori%au achos bod ynddyn nhw fwy o gacoa a llai o siwgwr.

Trio dychmygu fel yr oedd hi i fyw yno, i wni%o dillad, i baratoi bwyd.

Yr oedd o wedi trio ddwywaith-dair o'r blaen ac wedi clywed dim ond llais cwrtais yn gofyn yn Gymraeg ac yna mewn Saesneg di-acen am 'ir holwr ddweud- ei-ddweud.

Faswn i'n ôl yn lle dw i fod - a lle dw i'n trio mynd iddo fo ers dyddia!' Gostyngodd Myrddin ei lais.

Rwy i wedi whare am amser hir i Forgannwg a mae'n bwysig i fi bo fi'n trïo whare ar y lefel ucha.

Ond dwi'n saff, tasa hi wedi trio cerdded allan efo babi y basa rhywun wedi ei rhwystro."