Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

troad

troad

Hen blasdy gyda'r ucha o'r môr yng Nghymru - wedi ei adeiladu fel plas saethu i fyddigions troad y ganrif.

ac eto, er troad y ganrif y mae nifer llynnoedd Hiraethog wedi cynyddu!

Erbyn troad y ganrif, disgwylir gan rai sylwebyddion y bydd Cynnyrch Gwladol Crynswth China yn agos at yr America.

Mae'n siwr i nifer ohonoch ddathlu troad y mileniwm gyda'r tri ohonynt yng Nghaerdydd ond ers hynny mae Manic Street Preachers wedi bod yn eithriadol o dawel... hynny ydi, tan rwan.

Y Torîaid a enillodd Etholiad Cyffredinol troad y ganrif, ond cadarnle'r Blaid Ryddfrydol oedd Cymru.

Er bod hadau'r Mudiad Rhamantaidd wedi eu plannu cyn troad y ganrif, dyma flaenffrwyth y Mudiad.

Pan gynhaliwyd gwyl genedlaethol yn Llanbed y tro diwethaf - yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1984 - cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith bapur o'r enw CYMRU 2000. Ein dadl ar y pryd oedd y gallasai cymunedau naturiol Cymraeg fod wedi diflannu ymron erbyn troad y ganrif, er y byddai dros 400,000 o unigolion yn dal i siarad Cymraeg.

Hyd troad y ganrif hon ystyrid Dydd Calan fel diwrnod pwysicaf y tymor yng Nghymru, ond yn ystod y ganrif hon fe'i disodlwyd gan y Nadolig.

Ffurfiwyd Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr yng Nghasnewydd ddeng mlynedd cyn troad y ganrif.

Amcangyfrifir mai'r diwydiant Technoleg Wybodaeth fydd defnyddiwr trymaf ynni erbyn troad y ganrif, gan oddiweddyd y diwydiannau traddodiadol drwm a gysylltir yn arferol â defnydd uchel ar ynni.

Gan ddechrau ar Noswyl Nadolig byddai'r dathlu yn parhau am o leia' dair wythnos gan nad oedd yna lawer o waith i'w wneud ar y ffermydd yn ystod troad y flwyddyn, ac roedd pawb yn gallu canolbwyntio ar gael hwyl a sbri.

'Roedd gweithwyr diwydiannol y De a'r Gogledd wedi creu undebau i amddiffyn eu hawliau cyn troad y ganrif.

Erbyn troad y ganrif 'roedd y gwleidydd ifanc disglair hwn wedi bod yn areithio yn yr Eisteddfod Genedlaethol ers deng mlynedd, ac 'roedd deugain mlynedd arall o areithio o'i flaen.