Gan ystyried pwysigrwydd y sylwadau hyn, cytunwyd mai'r nod o ddysgu Cymraeg fel ail iaith yn yr ysgol gynradd oedd: "rhoi amrywiaeth o brofiadau addysgol yn y Gymraeg am gyfnod helaeth o bob dydd, o'r flwyddyn gyntaf yn yr ysgol gan gymryd i ystyriaeth gyraeddiadau gwahaniaethol y disgyblion" Cytunwyd: a) bod angen rhagor o fyfyrwyr yn y Colegau Addysg â diddordeb mewn dysgu ail iaith; b) bod angen trochiant llwyr yn yr ail iaith mor gynnar â phosibl ac nad yw ugain munud y dydd o ddysgu ail iaith yn ddigonol; c) bod angen gosod lefelau cyrhaeddiad graddedig a fyddai'n sicrhau dilyniant a chynnydd.