Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

troedle

troedle

Eisoes y mae'r gair 'troedle' wedi'i 'garnu' ganddo i ddisgrifio ein lleoliad yn y frwydr i barhau mewn bod, ac y mae paragraff olaf yr ysgrif yn rhapsodig: "Eto tra'r erys i ni droedle yn ein tir ni dderfydd gobaith.

Awgrymodd Glyn Jones iddo droi i'r Saesneg fel adwaith yn erbyn crefydd; mae'n bosib bod y newid iaith hefyd yn ymgais i'w uniaethu ei hun a'r hyn a ystyriai ef yn symudiadau mawr y meddwl dynol, i ennill troedle ar lethrau niwlog arucheledd:

TROEDLE CADARN I'R GYMRAEG - Yr angen am Ysgolion Cynradd Cymraeg penodedig yn y Fro Gymraeg - Emyr Hywel

Roedd hi'n amhosib ynysu'r wasg Gymreig, ac erbyn y cyfnod ar ôl y Rhyfel Mawr roedd dylanwadau torfol eraill yn ennill troedle.

Oherwydd dinistrio sylfaen bentrefol ein hiaith rhaid creu sylfaen newydd iddi; troedle a fedr wrthsefyll bygythiadau'r mewnlifiad cyson o Saeson i'r ardaloedd gwledig, a throedle a fedr gymathu nifer sylweddol ohonynt heb danseilio'r iaith a'r diwylliant Cymraeg.