Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

trofannol

trofannol

Ar ôl treulio'r gaeaf yn Sri Lanka mae troellwr Morgannwg a Lloegr, Robert Croft, wedi dychwelyd i hinsawdd llai trofannol Gerddi Sophia.

Roedd y Cyngor wedi ymateb i alwad Cyfeillion y Ddaear i beidio a defnyddio pren caled trofannol, meddai, gan benderfynu, felly, defnyddio ffenesti platig.

Edrychais ar y gorwel a gweld cymylau du enfawr yn prysur ddod tuag atom ac, o fewn munudau, roedden nhw'n arllwys glaw trofannol ar ein pennau.

Roedd yr awyr yn fyglyd, yn wlyb a llaith ac yn llwythog gan aroglau gorfelys tegeiriannau trofannol yn eu blodau.

Wrth iddi yfed yr hylif trofannol arall-fydol oedd yn gymysgedd anghredadwy o bob ffrwyth yn y jyngl, digwyddodd trawsnewidiad gwyrthiol.