Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

troseddu

troseddu

Fel eraill a weithiai yn y maes hwn, sylweddolai fod cyswllt amlwg rhwng troseddu a bod yn ddigartref.

Dywedodd wrthyf, Fab dyn, yr wyf yn dy anfon at blant Israel, at y genedl o wrthryfelwyr sydd wedi gwrthryfela yn fy erbyn; y maent hwy a'u tadau wedi troseddu yn fy erbyn hyd y dydd heddiw.

'Roedd yna hwyl a sbort a hawl i chwerthin yn Nedw heb fod yn troseddu rheolau disgyblaeth yr wyneb hir a'r difrifolwch.

Yr oedd yn fachgen bach swil iawn, ac un diwrnod yr oedd o wedi troseddu, neu wedi cael y bai, beth bynnag, ac yr oedd fy Nhad yn rhoi'r drefn iddo.

Daeth troseddu yn broblem fawr.

Beth bynnag, yn ôl a gofiaf, pan fu rhaid iddo ddangos y 'cerdyn' hollbwysig yn y diwedd, fe ddywedwyd yn garedig wrtho fod Pantycabal wedi bod yn gyfan gwbl yn yr iawn, er ychydig yn ddihiwmor o bosib, a'i fod ef, Waldo, wedi troseddu wrth beidio â dangos y cerdyn, ond y câi ef ei esgusodi'n llwyr pe bai ef yn sgrifennu ychydig o'r hanes ar gân i'r Pembrokeshire Police Gazette; ac yno, onid wyf yn camgymryd, yr ymddangosodd y gerdd am y tro cyntaf.

Prin y bu unrhyw drafod o gwbl ynghylch sut i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn troseddu adain dde; sut i gyfyngu ar y mewnfudo i'r Almaen oedd y prif beth dan ystyriaeth.

Ei gred ef oedd eu bod yn troseddu am nad oedd dim i'w cadw'n ôl, ac nid am eu bod yn gwneuthur hynny'n fwriadol.