Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

trosiad

trosiad

Trosiad hir yw'r gerdd, ymysg pethau eraill, mae mor gyfoethog ei hawgrymiadau, o'r gynhaliaeth ysbrydol sydd i feidrolyn i wynebu ei feidroldeb yn ei aml boen a'i siom a'i anobaith.

At hyn i gyd, trosiad hyfryd y cynaeafu a thrylwyredd y cywain i ysguboriau yn y pennill olaf; nid yn unig bodloni ar fedi diwyd ond mynnu lloffa'n ymroddgar hefyd fel nad oes ronyn o weld a chlywed yn mynd ar goll.

Defnyddir y trosiad o'r cyw yn gadael y nyth i gyfleu'r sefyllfa yma, ond teimlwn fod y diweddglo braidd yn ystrydebol.

Ac yn olaf, gwyddai'r ysgolhaig yn dda ddigon faint o yndrech feddyliol a llenyddol y buasai'n rhaid wrthi er mwyn sicrhau trosiad teilwng.

Mae gan Shelley frawddeg yn defnyddio trosiad i ddisrgifio'r meddwl creadigol, ac fe all ei bod yn taflu goleuni ar feddwl creadigol Waldo : "The mind in creation is a fading coal, which some invisible influence like an inconstant wind, awakens to transitory brightness."(A Defence Poetry).

Mae'r gymhariaeth neu'r trosiad yn ddi-feth ddiriaethol gyda'r awgrym cyson nad yw'r dyn sy'n gwrthod Duw yn ddim amgen nag anifail.

I ddisgrifio dyn, yn llawer mwy aml na pheidio, nid ansoddair a geir ond trosiad neu gyffelybiaeth.

Yn olaf, dyma gyfnod o waith prysur ymhlith yr alltudion yn paratoi trosiad Saesneg newydd o'r Beibl; cyfieithiad a ddaeth yn enwog iawn fel 'Beibl Genefa% ac a fu'n fawr ei ddylanwad yn Lloegr.

Trosiad Phil Bennett yn dilyn ac yn ychwanegu dau bwynt arall i'r sgôr.

Rhan ydynt o'r trosiad mawr.

Trosiad amlwg iawn oedd y rhyddhad o gaethiwed.