Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

trowsus

trowsus

Y diwrnod cyntaf yr es i i'r chwarel roedd fy mam wedi prynu trowsus newydd corduroy imi, a chôt o liain gwyn.

Wynwyn oedd y peth gorau a ddigwyddodd yn N'Og ers pan blethwyd gwe pry copyn yn lastig i gadw trowsus a 'sanau i fyny.

Mor wahanol iddynt hwy'u dwy mewn trowsus a'u gwalltiau'n flêr ar ôl y siwrnai hir.

"Yr argian fawr, trowsus 'nhad!" meddai'r dyn pan welodd Rex yn dychwelyd ato'n cludo rhywbeth yn ei geg.

Dyma chi'n dynesu at y ffermdy a choesau eich trowsus wedi eu rowlio i fyny hyd at eich pengliniau.

Enillai ddigon o gyflog i fforddio siwt trowsus hir, i brynu ffon, i fynd ar ei wyliau i Landrindod unwaith o leiaf, i gael ychydig o ddannedd gosod ac i ddechrau smocio.

Tu draw iddynt yr oedd coesau hir mewn trowsus du, rhesog, hynod barchus, a thu draw i'r rheini wedyn, mewn hanner cylch o galedwch cadair swyddfa, weddill corff yr anfarwol Ap Menai.

"A'ch trowsus?" gofynnodd Louis.

Bob nos Sadwrn fe fyddai Mati'n gwisgo'i gêr arferol þ hen gôt racslyd a llinyn wedi'i glymu am ei chanol; het dyllog; trowsus ribs; blewyn o wair yng nghornel ei cheg.