Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

truenus

truenus

Tystia edwiniad truenus bywyd cenhedloedd bach fel Cymru a Llydaw i hyn.

Mae'r gynulleidfa'n ddigon tene ar y gore, a doedd neb yn teimlo fel edrych ar Madog a chil i lyged bob tro y bydde'r ficer yn pregethu; ond roedd tŵr yr adeilad mewn cyflwr truenus, y glaw'n dod miwn drw'r to mewn manne, a wal y fynwent yn dylle i gyd - a deg mil yw deg mil.

Mae'r dyn ifanc yn dilyn camrau'r enwog Louis Palau sydd wedi ennill parch ledled y byd am ei waith mawr gyda'r plant bach truenus yn yr un cyflwr yn ninas Brasilia ei hun.

Y ffaith eich bod am ddilyn ffawd rhyw gymeriad truenus neu weld cyfiawnder mewn sefyllfa anghyfiawn.

Erbyn hyn roedd y jetiau wedi glanio a thrwy'r dail gallai Elen weld y llinyn truenus o garcharorion yn cael eu gwthio tua giatau'r gwersyll newydd a oedd wedi'i agor ar lannau'r llyn.

Daeth Sera i ddeall mai dim ond tlodi af truenus a fedrau yrru pobl i ymadael â'r ynys euddwydiol honno i geisio bywyd newydd ym Mhrydain.

Rhwng popeth, ni fu neb erioed yn fwy truenus ei feddwl ac yn fwy llawn o ddial, pe gwybuasai pa fodd i'w ddangos, na Harri Tomos y bore hwnnw.

Heb os, y prif reswm am gyflwr truenus yr economi yw'r gorwario a'r gorfenthyg yn ystod blynyddoedd trychinebus y llywodraethau milwrol.

Gyda'r ychwanegiad hwn i ddilyn: 'Gellwch chi gwisgo'ch crys cyn mynd allan.' Wrth chwarae pêl-droed gyda thîm eithaf truenus o egin-weinidogion yng Ngholeg y Bala, cefais ddolur llym tua gwaelod fy nghefn.

Gwelais y palmwydd marw y tu ôl i'r to, y cacti truenus o flaen y ffenest - arferai eu dyfrhau yn ffyddlon o brydlon heb os - planhigion swyddfa allan yn yr awyr agored.

Gobeithio - yng Nghymru - yr ysgogith hynny y pleidiau eraill i dorchi llewys hefyd - ac osgoi'r sefyllfa debygol trwy weddill y Deyrnas Unedig lle fydd etholiad pwysig yn dennu nifer truenus i chwarae rhan ynddo.

Yn yr adroddiad cyntaf hwnnw trawyd nodau y byddai adroddiadau diweddarach yn cydgordio â hwy: un oedd y ffaith - fel y gwelid pethau - nad tlodi oedd wrth wraidd y diffyg truenus yma o ysgolion neu gyfarpar.

Mae ei ddefnydd crefftus o'r Modd Dibynnol yn dwysa/ u'r argraff o wanc truenus yr ymchwil ofer.

Ar wahân i ambell eithriad prin, mae agendor truenus rhwng safonau'r perfformiadau Saesneg a'r rhai cymraeg.