Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

trwbadwriaid

trwbadwriaid

Ar yr un pryd y mae'n bur ochelgar ynglŷn â defnyddio'r gair 'dylanwad'; e.e., ar ôl brawddeg aneglur sy'n awgrymu fod rhaid fod arferion y Trwbadwriaid wedi dylanwadu ar arferion y Gogynfeirdd, 'fel y rhaid bod y naill wedi dylanwadu ar y lleill, neu eu dyfod o ffynhonnell gyffredin i ddechreu', â rhagddo i sgrifennu.

Pa bryd y dechreuodd canu'r Trwbadwriaid ddylanwadu ar ganu beirdd Lloegr?

Os teimlodd haneswyr llên Cymru'r rheidrwydd i gydnabod, er yn betrus, ddylanwad y Trwbadwriaid ar y Rhieingerddi, mae'n siŵr y buasai haneswyr llên y Trwbadwriaid eu hunain yn barod i hawlio dylanwad y llên honno arnynt, petasent yn gwybod amdanynt hwy, oblegid un o ryfeddodau'r canu Trwbadwraidd ydyw belled y cyrhaeddodd ei ddylanwad a chyflymed.

Er mai prif lyfr John Addington Symonds ydoedd The History of the Italian Renaissance, ac er bod y llyfr hwnnw ar ryw ystyr yn hollol nodweddiadol o nawdegau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac o ddechrau'r ugeinfed, ei lyfr mwyaf poblogaidd ydoedd Wine, Women and Song: Mediaeval Latin Students', llyfr a dynnodd y llen oddi ar gerddi'r Ysgolheigion Crwydrad, ac, fel y cawn weld, yr oedd eraill wrthi'n dadlennu byd cerddi'r Trwbadwriaid.

Pwrpas y rhan hon o'n llith ydyw dangos fod cytundeb rhwng ysgolheigion ynglŷn â dyled uniongyrchol neu anuniongyrchol Dafydd ap Gwilym i'r Trwbadwriaid (neu'r Trwferiaid) cyn i T Gwynn Jones sôn am ddyled y Gogynfeirdd iddynt, a bod rhai o'r ysgolheigion, megis W J Gruffydd a Lewis Jones, yn awgrymu mai trwy ddyled ei flaenorwyr yn y traddodiad llenyddol Cymraeg i'r Trwbadwriaid yr oedd Dafydd yn ddyledus.

Ni fynnai ef, fe ymddengys, fod ynryw ddyled ar Ddafydd i'r Trwbadwriaid: yn hytrach yr oedd ei brif ddyled i'r traddodiad barddol brodorol, i draddodiad barddol 'gwerinaidd' y 'bardd teulu'.

Ffrwyth y chwilio yw casglu mai'r ysgolheigion crwydrad a oedd wedi bod yn bont rhwng y Trwbadwriaid a Dafydd ap Gwilym.

Neu, a chofio rhybudd T Gwynn Jones ynglŷn â pherygl olrhain dylanwadau, a ydyw'n bosibl fod yr un amgylchiadau ag a roes fod i ganu'r Trwbadwriaid ym Mhrofens, wedi rhoi bod i ganu tebyg neu led-debyg yng Nghymru?

Yn y cyfrwng hwn yn union y daeth T Gwynn Jones i'r maes gyda'i astudiaeth o Rieingerddi'r Gogynfeirdd, a chan dderbyn rhai o awgrymiadau'r ysgolheigion a fu'n gweithio ar Ddafydd ap Gwilym a gwrthod eraill ohonynt, ceisiodd ddangos fod yn y 'rhieingerddi' yr un math o farddoniaeth ag a geir yng ngwaith y Trwbadwriaid, a bod rhai o arferion y Trwbadwriaid gan y beirdd Cymraeg.

Ychydig yn ddiweddarach na phapur yr Athro W J Gruffydd fe ymddangosodd papur gan yr Athro Lewis Jones, 'The Literary Relationships of Dafydd ap Gwilym', lle pwysleisir drachefn ddylanwad y Trwbadwriaid ar Ddafydd ap Gwilym ond yma pwysleisir ef ochr yn ochr â dylanwad barddoniaeth Ladin Glasurol a barddoniaeth Ladin yr Ysgolheigion Crwydrad.