Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

trwchus

trwchus

Olion afonydd Ond maentumir nad oedd Mawrth yn rhewllyd trwy gydol ei hoes oblegid yn ystod ei dyddiau cynnar credir fod yma gynhysgaeth gref o nwyon yn byrlymu o fynyddoedd tanllyd ar hydddi gan greu atmosffer trwchus o'i gylch ac yn cadw gwres yr haul rhag dianc ac o'r herwydd yn codi tymheredd arwynebol y blaned.

Profir hyn yn aml pan fydd yr adar yn drysu'n lân os daw niwl trwchus ar eu taith.

Eira trwchus drwy Gymru ddechrau Ionawr.

Rhaid cyfaddef nad ydym yn cael cnwd trwchus ers rhai blynyddoedd bellach ac mae'r sawl sydd yn barnu eu bod yn gwybod, yn beio'r effaith tū-gwydrol y mae llygredd y Ddaear yn ei gael ar y tywydd, am hynny.

Am ei draed oedd pâr o sandalau cryf gyda chreiau trwchus wedi'u plethu grisgroes at ei bengliniau.

Mae'n gardyn trwchus â choes sy'n plygu'n wastad ar y cefn.

'Roedd y rheiny fel arfer yn gyfrolau mawr trwchus anhylaw, a chan eu bod mor brin yr oeddynt hefyd yn foethbethau drud iawn.

Gyda'r goleuadau'n pefrio a'r carped trwchus, lliwgar, yn wir, roedd yn debycach i eglwys nag i gapel.

Dewch - ar unwaith.' Dilynodd criw o ddynion y ci o'r pentref i ganol yr eira trwchus.

Ac yn awr dyma gyrraedd gwlad fwy mynyddig, yn llawn cymoedd cul a gelltydd trwchus, du.

Yr enw ar ddefnyddiau fel y rhain megis gwydr barugog, polythen trwchus, niwl a rhai mathau o grisialau naturiol megis cwarts er enghraifft, yw defnyddiau tryleu.A fedrwch chwi ddarganfod unrhyw bethau tryleu?

Yr esgidiau oedd yr unig bethau a'm trawodd i, y gwadnau crêp trwchus.

Yn y blwch arfau newidiwch drwch y llinell i'r mwyaf trwchus.

'Roedd dail trwchus y coed wedi troi lliw yma ac acw yn barod, a llanwyd ei ffroenau gan leithder hydref.

Ond roedd y gobaith yn dal, roedd rhyw fymryn o obaith am adferiad a pharhad y Ffydd a'r achos, hyd yn oed os mai cul ydoedd fel y stribedi o olau a ddihangai rhag caethiwed y llenni duon, trwchus, dros y ffenestri.

Cychwyn S4C. Eira trwchus drwy Gymru ddechrau Ionawr. Diweithdra yn cyrraedd 3 miliwn. Roy Jenkins yn ennill is-etholiad Hillhead, llwyddiant seneddol cyntaf yr SDP.

Gellir anfon ci ymhell iawn oddi wrthych a gweld beth oedd yn digwydd "yn y cwm pell", megis, heb fod yna redyn tal na grug trwchus rhwng dyn a'i gi.

'Roedd wedi bod yn gosod tatws yn Nhyddyn Talgoch drwy'r dydd ac wedi cael ychydig o datws hadyd i fynd adref efo hi.Daethai'n nos cyn iddi gychwyn am adreg i Growrach, ac'roedd hi'n niwl trwchus.Gan nad oedd wedi cyrraedd erbyn deg aed i chwilio amdani.

Mae'r dryw yn aml yn adeiladu'i nyth mewn wal gerrig wedi'i gorchuddio ag iorwg, ac mewn llwyni trwchus.

Llai na chant o'r gynulleidfa wreiddiol sydd ar ôl erbyn hyn wedi eu lapio'n dyn mewn cotiau trwchus rhag oerni unarddeg y nos.

Bryd hynny, caem eira trwchus bob blwyddyn yn gyson (yn union fel y caem haul poeth yn yr hafau hefyd).

Fe ddisgynna'r holl fes o fewn ychydig wyth- nosau i'w gilydd i ffurfio carped trwchus ar y llawr.

Cofiodd am y llongau anferth oedd wedi diflannu heb i neb glywed sôn amdanyn nhw wedyn, am donnau oedd yn uwch na phen uchaf goleudai, am fôr oedd yn medru torri concrit trwchus yn union fel petai'n blisgyn wy.

ac i ffwrdd a 'r ddau i chwilio hyd ymyl y cae ac o gwmpas glan yr afon am bytiau o ganghennau mwy trwchus, a gwnaeth wil a huw yr un fath.

Edrychodd ar y muriau trwchus, y drws deuglo a'r barrau cedyrn y tu allan i'r ffenestr a gwelodd mor anobeithiol ydoedd.