Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

trywydd

trywydd

Mae sawl llwybr yn perthyn i'r daith hon, ond nid yw pob plentyn yn dilyn yr un trywydd.

Rydw i'n amau a fyddai Sais wedi dilyn yr un trywydd.

Roedd Smwt wedi codi trywydd traed rhywun dieithr o gwmpas y cawell.

Roedd Bob wrth ei fodd ac yn rhedeg ar hyd y llwybr o'u blaen gan ddilyn trywydd ci yn fan hyn a chwningen fan draw.

Ar yr un trywydd yr ydym wedi trefnu cwis chwaraeon rhwng holl glybiau chwaraeon yr ardal a rhaglen adloniant amrywiol mewn nifer o glybiau.

Yna, daw yn ei hôl gan gadw ar yr un trywydd yn hollol ac ar ôl dod gyferbyn â'r wâl fe gyfyd ar ei thraed ôl a rhoi llam o'i hunfan nes disgyn yn y wâl.

Cychwynnodd ar hyd honno, ar ôl ychydig gamau drysodd y trywydd, a dechreuodd Smwt symud o gwmpas mewn cylchoedd unwaith eto.

Nid oherwydd ei bod yn haws crafu'r pridd sydd eisoes wedi'i droi neu ei balu y dewisir lleoliad o'r fath ond oherwydd nad oes drywydd ar bridd felly ac na all gelyn sy'n dibynnu ar ei ffroen ddilyn trywydd o'r ganolfan i'r llecyn magu.

Gan mai am ryw ugain llath fwy neu lai y gall y gelyn ddilyn y trywydd cyn troi'n ôl i'r fan lle llamodd hi i'r wâl, hela ar y darn hwnnw'n unig y bydd ef gan fod y naid anferth wedi torri dilyniant y trywydd.

Yna pan gafodd hyd i ben y trywydd aeth fel y gwynt i fyny'r berllan, a'r Llewod yn ei ddilyn.

Ond collir golwg ar natur gyfangwbl ddiwinyddol y syniad Iddewig wrth ddilyn y trywydd hwn, gan mai'r datguddiad o Dduw yn hytrach nag unrhyw falchder cenedlaethol a orffwys y tu ôl iddo.

Ar yr un trywydd byddwn yn arbrofi gyda noson Garioci Gymraeg neu ddwyieithog efo'n hir er mwyn agor cil y drws ymhellach i ganu pop neu roc Cymraeg.

Dyna yn union a gewch ym Mro Gwyr os yr ewch ati i ddilyn y trywydd daearegol.

Mae Orig yn baglu ac yn cusanu'r ddaear ar ôl syrthio'n erbyn rhyw sgerbwd wifrau, Smwt yn codi trywydd cwningen neu wiwer, a phawb ohonom yn ei ddilyn fel ffyliaid!

Roedd tuedd ynddo bob amser i ddilyn pob trywydd trist.

Rwyt yn ailgydio yn y trywydd ond yn fwy effro y tro hwn, felly pan glywi dwrw ar y llwybr ychydig y tu ôl i ti rwyt am ffoi.

Wn i ddim yn union beth fyddai'r trywydd y maen nhw'n ei awgrymu.

Ei gyfarwyddiadau ers misoedd: cael gafael ar basport ffug, trefnu alibi am gyfnod fy absenoldeb a fuasai'n dal dþr, gadael trywydd ffug.

Daw hyn a ni am y ffin a chyfriniaeth, ond gall cyfriniaethgymryd llawer ffurf, a gwell peidio a mynd ar ol y trywydd hwnnw yn awr, o'r hyn lleiaf, nid ymhellach na'r profiad lledgyfriniol y mae llawer ohonom wedi ei gael.

Ffugio bod yn fyddar ac yn ddwl a gwrando ar bob si yn y fangre dlodaidd honno!" "A thra byddi di yno, Gwgon, mi fydda' innau yn gyrru'r ias i gerdded ac yn dilyn trywydd yr amserau." "Siort ora' Elystan, ond wnawn ni'n dau byth sbi%wyr fel Cellan Ddu.

'Beth, fe gollon nhw'r trywydd?'

Mae Alun Ifans, sy'n newyddiadura ar gyfer papur bro Y Cymydog, yn penderfynu dilyn trywydd stori'n fwy trwyadl na'r arfer, ar ôl i dŷ haf gael ei losgi yn y cyffiniau.

Mynnodd Capten Rogers ymuno yn y chwilio ac ni fu fawr o dro cyn dod o hyd i'r wersyllfa lle'r oedd y tanc tanddaearol Oddi yno dilynodd traciwr o Arab y trywydd nes taro ar y dynion yn eu trybini annisgwyl.

Oherwydd ei bod wedi mynd heibio i'r wâl am oddeutu ugain llath cyn dod yn ei hôl drachefn ar yr un trywydd, y mae wedi gadael dwbwl ei thrywydd arferol ar y darn hwnnw o dir a bydd y gelyn yn cael ei gamarwain i dybio ei fod ar ei gwarthaf ac ar fin ei goddiweddyd.

Darlunia Alun Llywelyn-Williams, yn Crwydro Brycheiniog, sut y byddai'r gyrroedd yn cyfarfod yn Llanddulas yn Nhirabad cyn dringo Mynydd Epynt, 'a hyd heddiw gellir dilyn eu trywydd, nid yn unig ar y ffyrdd glas, ond hefyd wrth enwau'r tafamdai, rai ohonynt yn ddim ond adfeilion mwy, a ddisychedai'r gwyr da, os nad eu hanifeiliaid hefyd, ar y daith, - Tafarnymynydd, ryw dair milltir o Landdulas, Tynymynydd neu'r Drovers' Arms ...