Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tsb

tsb

TSB: Adroddodd yr Ysgrifennydd ei bod wedi anfon at fanc y TSB yn cwyno am ei agwedd tuag at y Gymraeg a'r diffyg ffurflenni Cymraeg oedd ar gael.

Banc y TSB - yr oedd llythyr wedi dod i law yn esbonio pam nad oedd ffurflenni agor cyfrif a ffurflenni newid llofnodion ar gael gan Fanc y TSB.

Teimlai aelodau'r Pwyllgor nad oedd y rhesymau yn foddhaol a chynigiwyd ein bod yn anfon eto at Fanc y TSB yng Nghaernarfon yn cynnig gwasanaeth cyfieithu iddynt.

Mynegodd aelodau Cangen Y Groeslon anfodlonrwydd gydag agwedd Banc y TSB tuag at yr iaith Gymraeg - pan ofynnodd y Trysorydd am ffurflen Gymraeg (neu ddwyieithog), dywedwyd wrthi nad oedd ffurflen ar gael ac nad oeddynt yn barod i baratoi un.

Penderfyniad y Gangen oedd newid banc ond yn gyntaf i gwyno'n gryf iawn i'r TSB.

Daeth dau mor annisgwyl âr Battersea Dogs Home a Bank Lloyd TSB at ei gilydd i drefnur Mynd a chwn am dro mwyaf a fu erioed.