Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tseineaid

tseineaid

Mae'n ffaith bod yn Hong Kong heddiw nifer sylweddol, ymhlith y boblogaeth o bum miliwn a hanner, sydd heb allu siarad Saesneg; dyna gadarnhad o ffyniant yr agwedd herfeiddiol a barodd i'r llywodraethwr Robinson ganrif yn ôl awgrymu bod amharodrwydd Tseineaid Hong Kong i ymseisnigeiddio yn 'rhyfeddol, os nad gwaradwyddus'.

Mae'r Tseineaid wedi credu erioed fod ginseng yn arbennig o fendithiol i'r hen, ei fod yn peri i ddyn fyw yn hŷn ac yn gwella ansawdd ei fywyd.

Yn ôl Jan Morris, does neb sy'n fwy hyblyg wydn na'r Tseineaid, fel y tystia methiant yr ymerodraeth Brydeinig - hyd yn oed ar ei haruthredd mwyaf - i wneud fawr o argraff ar eu 'down-to-earth genius'.

Tseineaid yn prysuro rhwng siopau bychain Chatham Road North, yn diflannu i wyll y mân weithdai sy'n agored i'r stryd, neu'n hamddena yn y parc bychan coediog sy'n gorwedd yng nghesail cilgant stryd Wo Chung ac yng nghysgod y pileri sy'n cynnal heol Fat Kong uwchlaw.

Cafodd rhai o'r Tseineaid y tu allan i'r gwersyll ganiatâd i anfon ychydig o fwyd a ffrwythau i ffrindiau y tu mewn, ac ymhlith y rhai a dderbyniai ambell ffafr o'r fath roedd swyddog o'r enw Capten Lewis, a oedd yn enedigol o Gwrt-y-Betws, Sgiwen, ac nid anghofiaf byth ei garedigrwydd tuag ataf yn rhannu â mi o'i ychydig prin.

Pwnc y gerdd fuddugol yw tair o gorlannau crefyddol y byd, crefydd Islam, Cristnogaeth a chrefydd Bwda'r Tseineaid.