Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tsieciaid

tsieciaid

Y Tsieciaid yw'r enghraifft glasurol o'r broses hon ar waith.

Sgoriodd Frank De Boer o'r smotyn yn y munudau olaf ar ôl i'r Tsieciaid daror postyn ar trawst.

Pwysig hefyd yw sylwi ar honiadau Tsieciaid a Chroatiaid Awstria (fel y Magyariaid - ac Albanwyr Prydain) bod gan eu hen deyrnasoedd nodweddion gwladwriaethol o hyd, er na chymerid yr hawliau hyn o ddifrif gan yr awdurdodau.

Gweithiodd Masaryk i chwalu'r Ymerodraeth Awstria-Hwngaraidd, a oedd yn cynnwys ei genedl ef, cenedl y Tsieciaid, a ffurfiodd fyddin o'r carcharorion Tsiecaidd a oedd wedi eu cymryd i gaethiwed gan y Rwsiaid.

Crwydrasom i lawr at yr afon - Moldau yw'r enw Almaenig arni, er mai'r Vltava yw hi i'r Tsieciaid.

Yn yr ail le cawn genhedloedd canolig eu maint, gyda miliwn a hanner hyd at bedair miliwn o drigolion, neu o leiaf diriogaeth fawr, fel yn achos y Ffindir a Norwy: dyna'r Tsieciaid, y Slofaciaid a'r Croatiaid yn yr Ymerodraeth Habsburgaidd; Rwmaniaid, Serbiaid a Bwlgariaid o dan Twrci; a'r Gwyddelod, y Catalaniaid a'r Fflemingwyr yn y Gorllewin.