Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tuduriaid

tuduriaid

Hynny a eglurai i raddau pell boblogrwydd y Tuduriaid er cymaint fu anawsterau economaidd y cyfnod.

Mae'r uchelwyr Cymraeg yn dal i deimlo diddordeb ym materion eu hardal enedigol ond y maent ar yr un pryd yn dod yn aelodau cyflawnach o'r sefydliad canghennog a grewyd gan y Tuduriaid i asio Cymru wrth Loegr.

Yng nghanrif y Tuduriaid rhoddid pwyslais mawr ar safle'r tad yn y teulu ac ef, fel rheol, a fyddai'n trefnu priodasau ei etifeddion.

Portreadid y Tuduriaid ar gynfas yn y fath fodd i'w harddangos, nid fel yr oeddynt mewn gwirionedd ond fel y dylent fod.

Ymdriniaeth ddadlennol â chyfnod tyngedfennol yn hanes Cymru: oes y Tuduriaid.

y mae hynny'n dystiolaeth deg i farn y mwyafrif mawr o'r gwŷr eglwysig a'r boneddigion Cymreig ar bolisi'r Tuduriaid.

Teg yw cydnabod fod Shakespeare mewn dramâu eraill yn ddigon ymwybodol o fodolaeth Cymru a'r Alban - fel y gweddai i fardd yn canu yn y cydiad rhwng Oes y Tuduriaid ac Oes y Stiwartiaid!