Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tuedd

tuedd

'Tuedd unrhyw un ag ysfa fel d'un di ydi mynd yn dipyn o boen i'w ffrindiau weithiau,' meddai Robin.

Ein tuedd ni, yma yng Nghymru, pan yn cyrraedd ffordd drol yw arafu a rhoi'r car mewn gêr cyn lleied a phosib.

Tuedd pobl yn awr yw meddwl am wasanaeth crefyddol fel cynulliad preifat i'r sawl sy'n cymryd diddordeb mewn crefydd.

Ac ystyried natur dybiannol y cwestiwn, nid yw'n syndod efallai fod tuedd i'r atebion a gafwyd groesddweud ei gilydd; ac nid oes modd felly ddod i unrhyw gasgliad pendant ar sail yr astudiaethau hyn.

Gwn fod tuedd i athrawon fod yn sentimental hefyd ynglyn â'u myfyrwyr!

Dyna farn amryw byd o'n milwyr hefyd, ac mae tuedd bellach i chwerthin am ben y syniad fod yr Eidalwyr yn 'gynghreiriaid' i ni.

Tuedd yr Esgob Morgan mewn rhai mannau oedd cadw'n rhy glos at yr idiom Hebraeg.

Mae'n wir hefyd ei fod ambell wythnos yn ei chael yn anodd i lenwi'r golofn, a gwelir tuedd iddo "hollti blew ar adegau felly.

Ac fe ddaeth yn ffasiynol ymysg nofelwyr hanes yn ddiweddar - fel pe baent yn euog o'u tuedd i roi pen yn nhywod y gorffennol - i bwysleisio mor gyfoes yw arwyddocad eu gwaith.

Tuedd cyfrolau fel hon, er pob ymdrech i fod yn wrthrychol, yw clodfori, yw cymryd yn ganiataol fod pob sillaf o eiddo'r bardd yn gampwaith.

Y mae tuedd ynom ni'r cyfreithwyr i ddefnyddio'r Saesneg ar bob achlysur posibl: wele Gyngor Tref Pwllheli, rai wythnosau'n ôl, yn cystwyo dau gwmni o gyfreithwyr o dref nid nepell (a'r partneriaid yn y ddau gwmni yn Gymry Cymraeg þ un o'u plith yn Brifardd Coronog!) am iddynt anfon llythyrau uniaith Saesneg at y Cyngor Cymraeg hwnnw.

O fynd i oed mae tuedd mewn dyn i edrych yn ôl a byw ar atgofion sydd yn foddion cysur a mwynhad.

Yn wir, mor ansicr yw'r athrawon nes y maent yn datblygu tuedd i gyflwyno rheolau llymach hyd yn oed nag y mae'r awdurdodau yn eu harbed rhag trafferthion fel rhai Kleff.

Yn wir, mae tuedd i'r darllenydd fod yn ddigon naïf a thybio y gallai gynnig gair, ymadrodd neu drosiad gwell na'r un a roddir.

Tuedd pleidwyr Protestaniaeth oedd bod yn raddedigion mewn diwinyddiaeth.

Mae nifer y copi%au llawysgrif o'r ddau destun hyn, ac eraill ar yr un thema, yn dyst i boblogrwydd eithriadol chwedlau'r Greal yn Ffrainc yn ystod y drydedd a'r bedwaredd ganrif ar ddeg, ac yn ystod y ddwy ganrif hynny hefyd fe welwyd tuedd - bron na allwn alw'r peth yn ffasiwn - i gyfieithu gweithiau llenyddol o'r Ffrangeg i ieithoedd brodorol eraill gorllewin Ewrop a'r tu hwnt, a'r Gymraeg yn eu plith.

Dywed Raymond Williams fod tuedd wedi bod i ystyried yr is-ffurfiant mewn modd cul, fel rhywbeth unffurf a statig, tra bod syniad Marx ohono'n llawer ehangach: Proses yw'r is-ffurfiant, meddai, nid rhywbeth statig , ac mae'n broses sy'n cael ei nodweddu gan ddeinamig y gwrthdaro sy'n dod o wrthddywediadau y cysylltiadau cynhyrchu, a'r cysylltiadau cymdeithasol sy'n deillio ohonynt.

Mae tuedd i ymchwil addysgol yng Nghymru ymwneud mwy a diddordeb yr ymchwilydd nag anghenion yr athrawon.

Mae tuedd i'r label clasuraeth fod yn gamarweiniol gan mor gyfyng yw'n dehongliad ni o'r term yn aml.

Rhai sylwadau i gychwyn:-EW Y tuedd diweddar gan gwmniau yw cynyrchiadau un lle heb deithio.

Darganfuwyd hefyd fod tuedd y ddau ffibril canolog yn gysylltiedig a phlan curo'r swiliwm.

A bod un ynnwyr yn diffygio a darfod mae tuedd i synnwyr arall gryfhau a miniogi.

Mae tuedd o'r fath ynof erioed, mi gredaf.

Yn lle astudio hyfywedd amser hir ysgol, tuedd gweinyddwyr fu symud i mewn yn syth pan fyddai'r lefel yn disgyn o dan 16.

Mae tuedd wedi bod wrth astudio natur cymdeithas i anwybyddu dylanwad y dosbarth hwn.

Ond gan nad oedd ystadegau yn bethau mor bwysig yr adeg honno ein tuedd oedd dweud nad ydi pasio arholiad ddim yn bopeth.

Roedd tuedd yn y ddau achos i ailddweud llawer yn y sefyllfa ddosbarth cyfan gan symleiddio cystrawen a thraddodi'n fwy uniongyrchol yr eildro er mwyn sicrhau dealltwriaeth.

Roedd tuedd ynddo bob amser i ddilyn pob trywydd trist.

Mae'n wir bod cyfundrefn addysg - gynyddol bwysig - yr ysgolion gramadeg a'r prifysgolion yn milwrio yn ei herbyn, ac yr oedd tuedd ymhlith rhai o'r dosbarth masnachol hefyd i anghofio eu Cymraeg, yn ol tystiolaeth John Davies.

Tuedd y rhan fwyaf o lenorion Lloegr, hyd at yr Oes Ramantaidd, fu ystyried fod popeth Groeg a Rhufeinig yn rhwym o fod yn well na'r dulliau brodorol; ond yr oedd y Cymry, mewn cyferbyniad, yn dueddol o edrych ar farddoniaeth Gymraeg fel traddodiad clasurol arall, a oedd yn llawn mor hynafol yn ei wreiddiau, yn llawn mor gaeth a ffurfiol, an yn llawn mor deilwng o barch ac astudiaeth â'r traddodiad Groeg a Rhufeinig.

Ochr yn ochr â hyn roedd tuedd i gollfarnu'r dosbarth cyfalafol am fethu yn eu dyletswydd at y miloedd o bobl a oedd wedi eu crynhoi at ei gilydd, yn ôl eu gorchymyn, i leoedd afiach.

O ganlyniad i hyn, y mae tuedd ddiamheuol iddynt gynnig triniaethau llawfeddygol pan nad oes gwir angen amdanynt ac i roi triniaeth gymhleth a drudfawr pan fyddai un syml a rhad yn gwneud y tro'n iawn.

Yn arbennig am fod tuedd yng Nghymru at derfysg, gyda Merched Beca, a'r Siartwyr yng Nghasnewydd, roedd rhaid ymchwilio i gyflwr Cymru, ac fe ddaw'r cyd-destun cymdeithasol yn amlwg ar dudalennau cyntaf yr Adroddiadau.

Yn y cyswllt hwn roedd tair tuedd: * ystyried y gair llafar yn fodel ar gyfer y gair ysgrifenedig ac felly, mabwysiadu cywair safonol a oedd yn gallu ymddangos yn anystwyth a phell,

Ac efallai oherwydd hyn, ymddengys mai tuedd oedd i'r rhan fwyaf o aelodau ifanc y Gymdeithas symud i ffwrdd nid yn unig o weithredu fel ffordd o gadarnhau eu cefnogaeth i frwydr yr iaith ond i ymbellhau oddi wrth y mudiad ei hun wrth iddynt ymbarchuso.

Lle nad oedd un genedl yn ben, tuedd Herderiaeth oedd cryfhau hunaniaeth pob cenedl yn y wlad.

Tuedd y rhai pren oedd llithro allan o'u lle.

Tuedd dreisgar yw gwendid Griffith Jenkins yn y stori gyntaf, Ar Wely Angau, a'i wraig druan, Mary, sy'n dod yn destun ‘trancedig' yr hanes.

Mae tuedd, ysywaeth, i'r holl bynciau orbwysleisio'r dealltwriaethau llythrennol ac ad-drefniadol yn y math o gwestiynau darllen a deall a osodir ym mhob maes cwricwlaidd a chyda phlant cyffredin ac is o ran gallu yn arbennig, ar ddechrau gyrfa ysgol.

Tuedd polisi yw gwarchod buddiannau'r sefydliad yn hytrach na'r unigolyn a gallai rhai unigolion ddioddef.

Tuedd....

Mae tuedd ganddi hefyd i fwyta aeron anaeddfed, sydd hefyd wrth gwrs yn groes i fuddiannau'r eiddew a'i hangen i wasgaru hadau ffrwythlon.

Mae'n wir fod y nofel hanes yn dal ei bri, ac mai tuedd honno ar y cyfan yw bod yn rhamant hanesyddol sy'n darlunio corneli o'r gorffennaf heb ddehongli'u harwyddocad.

Am fod tuedd mewn dynion i garu a chasa/ u pobl o wledydd eraill.

Gellir awgrymu nifer o resymau am y teyrngarwch rhanbarthol hwn, sef twf gweinyddiaeth a datblygiad sefydliadau sirol, cynnydd cyfoedth y bonedd gwledig a'u tuedd gynyddol i briodi aeresau lleol, eu diddordeb mewn hanes, hynafiaeth a chyfraith, a thwf trefi sirol yn ganolfannau cymdeithasol, diwylliannol a gweinyddol.