Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tuedda

tuedda

Tuedda'r cynrychiolwyr busnes honedig mewn ardaloedd gwledig i fod yn anwybodus am anghenion yr economi neu'r anghenion sgiliau heblaw am bersbectif cul anghenion eu cwmni neu sector eu hunain.

ond tuedda fy naratifau hir dirgel ddyn a hen lwybr i fod yn stori%au aml-lawr, yn wir tuedda fy stori%au i fod yn stori%au aml-lawr, hynny yw fod sawl haen stori%ol iddynt.

GWERTHUSO: Tuedda buddiannau adennill tir i or-bwyso'n erbyn y costau, yn amodol ar gorffori materion yr amgylchedd yn ystod y cyfnod o ddylunio a chynllunio, yn hytrach na meddwl amdanynt fel elfen atodol i'w chyplysu ar y diwedd, ac yn amodol hefyd ar werthuso effaith yr holl waith arfaethedig ar yr amgylchedd, a phwyso honno'n erbyn y defnydd terfynol arfaethedig cyn cychwyn, neu hyd yn oed gynllunio, unrhyw waith.

Gallwn brofi pwysigrwydd yr uned bentrefol trwy gyfeirio at nifer o enghreifftiau e.e.l. Pan unir capeli, gan gynnal gwasanaethau bob yn ail mewn gwahanol bentrefi, tuedda'r mwyafrif o'r gynulleidfa ddod bob amser o'r pentref y cynhelir y cwrdd ynddo e.e.2. Pan fydd plentyn yn cael ei symud - trwy ddewis rhieni - i ysgol pentref arall, tuedda'r plentyn golli cysylltiad cymdeithasol anffurfiol hefyd â gweddill plant y pentre e.e.3. Pan gae'r ysgol, bydd holl blant y pentre'n colli'r ymwybyddiaeth o fod yn griw y pentre wrth fynd i'r ysgol uwchradd ac felly'n colli'r ymwybyddiaeth o berthyn ar y lefel hon.

Tuedda'r rhain i fod yn gysylltiedig ag arferion gwaith a chanlyniadau uniongyrchol ac anuniongyrchol llunio polisiau.

Felly tuedda'u gweithiau i fod yn fwy confensiynol na'r realiti y maent yn honni ei gynrychioli.

Ond yn union fel y mae angen y golygfeydd, y setiau a'r actorion eraill ar y rhan fwyaf o berfformiadau theatr i gadw diddordeb y gynulleidfa, felly y mae angen pob cymorth posibl ar y rhan fwyaf o athrawon a darlithwyr i ennyn diddordeb eu dosbarthiadau - yn arbennig mewn pwnc lle tuedda pynciau i fod yn gymhleth ac yn amhosibl eu datrys, yn ôl pob golwg, ac sydd hefyd mor wahanol i'n problemau ninnau yng Nghymru yn yr wythdegau.