Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tueddiad

tueddiad

Hefyd fe fyddai hyn yn ffordd o sicrhau mai un fersiwn Cymraeg fyddai, ac nid cyfieithiad gan aelod o un tueddiad gwleidyddol a chyfieithiad arall gan aelod o dueddiad gwleidyddol arall.

Y mae tueddiad i ni anghofio mai grŵp bychan o blith trwch y gymdeithas yw aelodau'r mudiadau hyn a bod y rhelyw o'r Cymry Cymraeg o gyffelyb oedran yn cymdeithasu mewn cylchoedd gwahanol iawn nad ydynt o'r braidd yn dod i gysylltiad â'r diwylliant Cymraeg o gwbl yn eu cylchoedd hamdden.

Y tueddiad heddiw ydi clirio llefydd o'r fath, a dyna'r nico wedi colli ei gynefin a ninnau yn colli ffrind a chantor lliwgar diguro.

Ar hyn o bryd y tueddiad ganddynt yw ymateb i gynlluniau sy'n effeithio'r ardaloedd gan wneud awgrymiadau o blaid neu yn erbyn unrhyw gynllun.

Mi ragdybiaf hefyd y bydd terfyn ar y Gymraeg yn iaith fyw, ond parhau'r tueddiad presennol, tua dechrau'r unfed ganrif ar hugain, a rhoi bod dynion ar gael yn Ynys Prydain y pryd hynny.

Hyd yn oed cyn ysgrifennu'r un o efengylau'r Testament Newydd yr oedd y tueddiad wedi ymwreiddio ymhlith y Cristnogion hynny a ystyriai Rufain yn hytrach na Jerwsalem yn ganolfan y byd.

Oherwydd eu tueddiad i fod yn wlyb ac asidig mae cyfran uchel o briddoedd Cymru yn addas ar gyfer tyfiant porfa arw neu barhaol yn unig.

Gallai hyn greu problem mewn dosbarth lle mae mwyafrif y myfyrwyr yn Gymry Cymraeg, er enghraifft, gan y byddai tueddiad i'r darlithydd ar gwrs dwyieithog anghofio bod rhaid cadw elfen o Saesneg yn y dysgu hefyd os yw'r cwrs i fod yn un gwir ddwyieithog." Er gwaethaf yr ail bwyso a'r ail ddatblygu y bydd rhaid i Addysg Gymraeg eu hwynebu wrth weithredu'r Cwricwlwm Cenedlaethol, bydd y gronfa o arferion da sydd ar gael yn gynhaliaeth werthfawr.

cryfhau statws cynllunio'r iaith Gymraeg gan felly atal y tueddiad i benderfyniadau lleol gael eu gwyrdroi gan Apeliadau i'r Swyddfa Gymreig.

Roedd y diweddar Raymond Williams, yn fwy na neb, yn ymwybodol o'r tueddiad Prydeinig - a Chymreig, afraid dweud - i osgoi gorfod wynebu cwestiynau dirdynnol ein hoes trwy weu mytholeg briodol o'n cwmpas.