Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tueddiadau

tueddiadau

Bron na ddywedwn fod undonedd gwastatiroedd yn groes i natur y Celt a hynny am ei fod o bosib wedi etifeddu tueddiadau sy'n medru ei godi'n sydyn i'r entrychion, a bod undonedd yn lladd ei ysbryd.

Bu cryn ddyfalu ynghylch tueddiadau rhywiol Gadaffi.

O'r tueddiadau hyn, y canol yw'r un sydd fwyaf derbyniol o safbwynt datblygiad pynciol a ieithyddol y plentyn gan ei fod yn caniatau bratiaith wrth archwilio syniadau mewn grwp, ond yn arwain y disgybl hefyd, i gyfeiriad iaith fwy safonol mewn sefyllfaoedd dosbarth cyfan mwy ffurfiol.

iii) arolygu ac adolygu perfformiad, polisi%au, gweithdrefnau diogelwch cyffredinol ac ati gyda golwg ar wneud addasiadau angenrheidiol ac argymell diwygiadau, polisi%au newydd ac yn y blaen i leihau tueddiadau anffafriol;

Fe fu cryn ddyfalu ynghylch tueddiadau rhywiol yr Arlywydd ac, unwaith, fe wahoddodd bump o newyddiadurwragedd o gylchgronau yn yr Unol Daleithiau i dreulio peth amser gydag ef, ei wraig Soffia, a'u saith plentyn er mwyn gweld pa mor normal oedd bywyd y teulu.

Y mae'r darlun o Ardd Eden yn ddarlun parhaol o dwf gwybodaeth; y mae'r dehongliadau amrywiol o Hamlet yn dangos tueddiadau cynhyrchwyr o gyfnod arbennig; y mae llun Beckett o Estragon a Vladimir yn aros tan y goeden yn ddarlun o gyflwr o golli ffydd y Pumdegau, ond mae o hefyd yn ddarlun o gyflwr o ddiffyg nod sy'n barhaol ddiddorol.

Buont hefyd yn gyfrwng i atgyfnerthu'r tueddiadau hynny a ogwyddodd Davies i gyfeiriad trosi'r Ysgrythur a threfn y gwasanaeth i'w iaith ei hun.

Yn raddol daeth yn amlwg nad oedd hyn yn wir ac yr heintid merched a dynion yn gyffredinol, waeth beth oedd eu tueddiadau rhywiol.