Wrth ddefnyddio'r fath eiriau tueddid i ddibrisio'r ymdrech a wnaed ym Mhwllheli, er, o wybod pwy oedd y golygydd, derbyniaf nad dyna oedd mewn golwg.
Wedi'r cwbl yr oedd swydd esgob - yn enwedig Esgob Tyddewi - neu archddiacon neu ddeon yn gallu bod yn ffynhonnell cryn gyfoeth, ac felly tueddid yn gynyddol i roi'r swyddi hyn yn wobrau i ffefrynnau'r brenin a'r arglwyddi.