Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tueddu

tueddu

Mae'r awdurdodau iechyd yn poeni fod yr arfer o ddefnyddio tatws parod ar gynnydd gan fod y mwyafrif o bobl eisoes yn tueddu i fod yn brin o fitamin C.

Mae'r rhelyw o seicotherapwyr a seicdreiddwyr yn tueddu i droi at chwedloniaeth Groeg, ac at chwedlau Grimm, Aesop a hyd yn oed La Fontaine, er mwyn cael cyffelybiaethau i'w galluogi i geisio trafod a chyflwyno'r ffyrdd dyrys sydd gan bobl o ymwneud â hwy eu hunain ac â'i gilydd.

Un feirniadaeth ohonynt y gellir o bosib ei gwneud yw eu bod yn tueddu i ganolbwyntio ar y newyddion 'da', ac i osgoi pethau fel hanes llysoedd lleol, ysgariadau, ac ati, a'u gadael i'r papur lleol traddodiadol, Saesneg ei iaith yn bennaf.

Mae nifer o'r adar sy'n ymweld â'r llecyn cadwraeth yn adar y goedwig ac maen nhw'n tueddu i barhau i fwydo ar yr un lefelau ag y bydden nhw'n ei wneud yn y goedwig.

Gellwch brynu un arbennig ar gyfer eich car, a chael y garej sy'n arfer trin y car i'w osod, ond rhaid cofio fod y rheini yn tueddu i fod yn llawer drutach.

Yr unig broblem oedd malaria, sy'n tueddu i fod yn rhemp ar dir isel, ac sy'n fygythiad difrifol i bobl fu'n byw cyhyd yn yr ucheldir.

Un o beryglon gosod labeli ar destunau llenyddol yw fod yr ymgais i chwilio am nodweddion diffiniadol cyffredinol yn tueddu i guddio elfennau sydd yn arbennig i waith unigol.

Mae'r ola o'r caneuon, Sêr yn llawn egni ond oherwydd fod llais Alex, unwaith eto, yn tueddu i fod yn rhy dawel mae yr effaith fwriadol yn cael ei cholli ar geiriau felly braidd yn anneglur.

Yn y dyddiau cynnar roedd y label yma yn tueddu i recordio deunydd ifanc, pop, gwerin a chanu protest a'r artistiaid mwyaf amlwg, o'r cyfnod cynnar, oedd Geraint Jarman, Meic Stevens, Edward H Dafis, Endaf Emlyn, Tecwyn Ifan ac, wrth gwrs, Dafydd Iwan, ei hun, a fu mor brysur yn canu.

Ond eto roedd y rhan fwyaf o'r Cymry yn tueddu i berthyn i'r Capel pan ddes i i Aberdaron.

Doedd aros yn rhy hir o dan onnen ddim yn beth da, fodd bynnag, gan fod ysbrydion yn tueddu i hoffi clwydo yn ei brigau.

Ar y pryd roedd y gohebwyr yn tueddu i gytuno.

Ond, fel yr awgrymwyd, 'roedd carfan o'r mudiad a oedd yn barod i ddilyn Newman yn hyn, ac yn tueddu i fynd ymhellach nag ef, hyd yn oed, gan haeru fod gan Eglwys Loegr gymaint i'w ddysgu oddi wrth Rufain ag oedd gan Rufain oddi wrth yr Anglicaniaid.

Gan fod cymaint o blant yn marw'n ifanc, mae rhieni Ethiopia yn tueddu i fagu teuluoedd mawr er mwyn gwneud yn siwr fod rhywun ar gael i ofalu amdanyn nhw yn eu henaint.

Mae hyn yn gwbl ddilys yn seicolegol, oherwydd fe fydd rhiant yn tueddu i weld ei blentyn fel ymgorfforiad o'i febyd ei hun, ac wrth golli Siôn mae'r bardd yn ffarwelio â holl hwyl ac asbri ieuenctid, fel y gwelir yn y paragraff olaf.

Yr oedd hi'n weddol dal, i'm tyb i, a chanddi dorreth o wallt tywyll, yn tueddu i fod yn grych, a dim un blewyn gwyn.

Yn y misoedd yma mae pawb yn tueddu i gymryd eu gwyliau ac/neu fyw yn eu hail dy ar lan y môr yn ymyl Rawson, er mwyn cael seibiant o'r gwres llethol.

Ac er bod sefydliadau cyhoeddus ac addysgol yn tueddu i'w hanwybyddu, erys yn hynod boblogaidd.

Yr unig beth y gellir ei ddweud gyda sicrwydd ar sail hyn yw fod nifer y bobl a âi i wasanaethau'n tueddu i fod yn fwy na nifer yr aelodau.

'Mae rhywun yn tueddu i dreulio'r amser yn mynd o'r tŷ i'r car, ac yn ôl i'r tŷ, felly mae'n bwysig gwneud ymarferion', ebe Beryl Owen, cyd-drefnydd rhanbarth Dinbych, Clwyd.

Tueddu i ddelfrydu'r testun yr oedd ygwaith a gadael argraff o ddiffyg bywyd a'r ias oedd, efallai, heb ei llawn fynegi.

Dylid trin dail betys yn debyg i'r modd y trinnir spinaits; ond gwell torri ffwrdd y rhan isaf o'r goes sy'n tueddu i fod yn wydn.

Yn wir mae un cymeriad yn tueddu i siarad mewn diarhebion.

Ni bu Fidel erioed yn aelod o blaid gomiwnyddol fechan Cuba, er bod ei ddaliadau yn tueddu i'r chwith.

Hi oedd yr olaf i ganu ac mewn cystadleuaeth lle mae'r cantorion yn tueddu i gyflwyno pump neu chwe chân mewn rhaglen o ryw ugain munud - dwy gân yn unig gawson ni gan y ferch 32 oed hon.

Enghraifft yw hyn o'r syniad fod natur yn tueddu i efelychu gweithredoedd dyn.

Roedd ei thad-cu wedi ei rhybuddio fod porthmyn tueddu i orliwio pan fyddent yn adrodd newyddion.

Yn ail, mae cynhyrchaeth llafur yn debyg o fod yn uchel yn y diwydiannau cynhyrchu am wahanol resymau: yn un peth maent yn defnyddio llawer o gyfalaf gogyfer â phob person (maent yn fwy cyfalafddwys nag yw'r gwasanaethau), ac mae eu cymhareb allgyrch cyfalaf yn tueddu i godi gyda'r blynyddoedd.

Mewn gwrthgyferbyniad amlwg â hyn y mae dysgu ffurfiol yn hunan-ymwybodol, yn ddarniog ac yn tueddu i roi ffocws ar yr iaith ei hun.

Nid yw'r ffurf ansylweddol yn tueddu i ennill parch cyffredin - mae dyn yn fwy tebygol o golli neu waredu pamffledi na llyfrau.

Yr ydych yn tybio mai traddodiad Cymru yw'r grefydd Gatholig, am mai hi oedd ein crefydd pan oedd ein llenyddiaeth a'n diwylliant ar ei orau; felly am eich bod yn gwybod gwerth traddodiad yr ydych yn tueddu (a siarad yn gynnil) i ddywedyd mai ennill fyddai i Gymru fyned yn Babyddol.

Y gwir yw ein bod, yn ein hanwybodaeth a'n hadwaith yn erbyn oes orgrefyddol, yn tueddu i ddibrisio crefyddwyr y ganrif o'r blaen, gan eu gweld fel pobl sych, anymarferol; bu'n well gan lawer ohonom eu gadael ynghwsg rhwng cloriau cofiannau ac esboniadau llychlyd ein siopau llyfrau ail-law.

Ac y mae bodolaeth y gerdd yn fwy fyth o syndod pan gofiwn fod marwolaeth plant bach yn ddychrynllyd o gyffredin yn yr Oesoedd Canol, a bod rhieni'n tueddu i ymgaledu a derbyn y fath golledion fel rhan anochel o fywyd yr oes.

Yn wir, y mae'n gymaint o fyrdwn nes bod dyn heddiw - pan yw nifer o ddelfrydau'r cylchgrawn wedi eu sylweddoli i raddau yn tueddu i gydymdeimlo ag ateb y gwr plaen ei ymadrodd hwnnw, Iorwerth C.

Fe fydd din tueddu i arafu tipyn yr wythnos hon, ac y maen hen bryd.

Ond y mae Humphrey Llwyd yn pwysleisio bod y Gymraeg yn ei grym yn y man drefi, ac yn wir ei bod yn tueddu i ledu dros afon Dyfrdwy.

Mae pobl wedi tueddu i'w cadw mewn adrannau ar wahan yn eu meddyliau, fel petaent yn son am fydoedd gwahanol.

Ar un ystyr yr oedd y ffasiwn llenyddol a llenyddol-ysgolheigaidd yn Lloegr yn tueddu i gadarnahu barn llenorion a beirniad Cymru fod i Ddafydd ap Gwilym safle unigryw yn y traddodiad llenyddol Cymraeg, ond ar yr un pryd yr oedd yn tueddu i gadarnhau'r argraff o chwilio'n ddigon manwl, ddod o hyd i effeithiau dylanwadau cyfandirol arno.

Er bod y llinos yn doreithiog, mae yn tueddu i guddio.

Tueddu i rethregu a wna Gwylan wrth ddisgrifio a delfrydu'r gyfundrefn Gomiwnyddol yn Rwsia a'r Balcanau.

Mae gwaith ymchwil arall yn tueddu i brofi bod gan aderyn allu ychwnaegol i ddarganfod y ffordd, a'i fod yn gallu defnyddio maes magnetig y ddaear.

Os rhywbeth, mae'r ddau lyfr bach yma yng nghyfres Nofelau Nawr, Gwasg Gomer, yn tueddu i gyfeiriad yr ail gategori.

Mae'r straeon yn y casgliad sydd wedi'u gosod yn Arfon yn tueddu i edrych yn ol i gyfnod cynharach.

Prin iawn yw ceddi marwnad gan feirdd i'w plant eu hunain yn llenyddiaeth Ewrop yr Oesoedd Canol, ac mae haneswyr wedi tueddu i dybio fod y tawelwch yn dangos nad oedd rhieni'n galaru am eu plant.

Braidd yn anffodus oedd hi efallai bod y cyntaf i ymaflyd yn y faner honno'n ddyn o egwyddorion cryfion, yn rhywun na fedrai weld bod rhai o'r pethau a adroddwyd yn y llyfrau a ddysgodd iddo sut i fyw, am gariad brawd at frawd ac at elynion yn tueddu i golli'u grym mewn awr o gyfyngder cenedlaethol'.

Ond pan nad oes cynnwrf o'r fath, y mae hyd yn oed y selogion yn tueddu i laesu dwylo.

Yn wir, tybir ei fod yn gweithredu i adfer y corff i'w gyflwr normal pan fo rhyw ddylanwad yn tueddu i'w yrru ar gyfeiliorn.

Er bod y geiriau "Ty'd Mewn O'r Glaw" yn tueddu i fod yn ailadroddus, y mae'n gân sy'n wych o ran techneg gerddorol ac yn sicr yn un i ymlacio gyda hi.

Felly, be mae'r gymdeithas yn tueddu i'w wneud yw trefnu'r swper yng nghanol mis Mawrth.

Yr oedd hyn yn tueddu i fod yn nodweddiadol o'r hen drefn babyddol pan oedd uchel swyddogion yr Eglwys hefyd yn weinyddwyr yn y llysoedd ac yng ngwasanaeth y Goron.

Sen ar ddeallusrwydd a hunan-barch unrhyw newyddiadurwr profiadol fyddai cael ei gyflogi'n unig i ddarllen sgriptiau a baratoir gan rywun arall -: does dim rhyfedd felly fod yr ysgrifenwyr yn tueddu i edrych ar y rhai a gyflogir fel darllenwyr yn unig - â pheth dirmyg nawddogol Sylweddolir nad oes cyfle i ymarfer rhyw lawer o ddawn greadigol wrth ysgrifennu newyddion ­ credir fod angen llai fyth o ddychymyg i'w darllen.

Ar ôl bwrw ei brentisiaeth gyda Betsey, i ffwrdd ag ef ar daith garu ddiflino, bicare/ sg, a fyddai'n darllen fel dychan ar y nofel serch Victoraidd yng Nghymru oni bai am y protestio parhaus fod y cwbl er lles moesol ei gynulleidfa, yn enwedig y rheini a oedd yn tueddu at y fath ymddygiad.

Yn anffodus, mae llais Alex yn cael ei foddi ar brydiau gan yr holl offerynnau a hynny'n tueddu i amharu ychydig ar y gwrando.

Ar adegau felly, cyn sicred â dim, y mae gên y gohebydd druan yn tueddu i rewi a'r gwefusau'n crynu wedi oriau'n gwagsymera yn yr oerni, gan wneud y dasg o adrodd yr hanes gerbron y camera'n un hynod boenus.