Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

turio

turio

'Cynnwys meddyliau, croesawu ysbrydoedd, ymwthio, saethu, perchi ystlumod, ymlid gwynt, porthi cnawd, turio am oferedd', ac elfen drosiadol gref iddynt yn ogystal.

'Rŵan,' gollyngodd y cawr ei afael ynddo, 'cymer di'r rhaw fach yna a gad i mi dy weld yn turio am y trysor.

Mae gennyf gôf plentyn o fynd ar y trên bach i'r Mwmbwls o Abertawe yn Ystod un o'r hafau poeth tragwyddol yna a gawsom i gyd fel plant, gan dreulio'r diwrnod i gyd ar fy hyd yn turio rhwng y creigiau am drysor.

Arhoswn gydag ef a'i deulu caredig o nos Wener hyd nos Lun a threuliais y dyddiau, gan gynnwys y Sul, yn turio ymysg y llyfrau.

Profiad ingol ar drothwy'r 'Dolig oedd mynd heibio a gweld dim ond pedair wal yn sefyll a pheirianna'n turio hyd yn oed i sylfeini un o'r rheini tra llosgai'r gweithwyr rai o blancia'r to yn ei grombil gwag, y gwreichion yn tasgu o'r fflama' a'u cochni yn cael ei adlewyrchu yn gysgodion grotesg ar blastar y muria' i oleuo mwrllwch bore oer o Ragfyr.

Nid turio i'r Mabinogi a Chymraeg Canol a wnaeth, a chwilio am batrymau fel ysgolhaig, ond ysgrifennu o gyflawnder ei enaid fel Cymro o Lanuwchllyn.