Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

twll

twll

Tiger Woods sydd ar y blaen, gyda naw twll yn weddill.

Gorweddai yn ei gwely bach pren mewn twll yng nghlawdd y cae haidd yn troi a throsi, yn ysu am weld golau dydd.

Y noson o dan sylw, bu Miss Williams yn hir syllu drwy'r twll yn y blacowt yn ffenestr y llofft ffrynt ar lampau bus Ifan Paraffîn yn dawnsio'u ffordd yn feddw ar hyd Pen Cilan cyn stopio'n stond, ond heb wybod i sicrwydd mai bus oedd yno.

'Roedd hi wedi treio torri twll mewn un yn barod, ond roedd o'n rhy galed.

Dychymgwch eich bod yn byw drwy'r bedlam yna ar ôl Dolig pan mae pob dim ar sêl yn y sipa, a phob twll a chornel yn bloeddio hynny.

Fe ddangosodd y rhain i mi bob twll a chornel o Istanbwl cyn i ni wasgaru ymhen pum diwrnod.

Wedi i bawb fachu gwely yn un o'r stafelloedd - Y Nyth (bechgyn), Y Ffae (merched), a'r Twll (chwyrnwyr), agorwyd y penwythnos gyda thrafodaeth ar y flwyddyn a aeth heibio.

Gyda grwpiau fel Manic Street Preachers a Stereophonics yn derbyn canmoliaeth o bob twll a chornel - ac nid ym Mhrydain yn unig - mae'r rhai hynny a oedd yn fwy na pharod i feirniadu bellach wedi gwirioni ar yr hyn sydd gennym i'w gynnig.

Daeth newid ar y drefn o gasglu wedi iddynt sylweddoli pa mor anfoddhaol oedd yr wybodaeth lafar, ac yn wir, pa mor amhosibl oedd teithio i bob twll a chornel.

Gwedda arddull teledu'r cyfnod - arddull fwy theatraidd a mwy cyfyng i'r elfennau hynny o'r ddrama sydd yn chwarae gemau theatrig di-gynulleidfa mewn twll bychan ynysig.

Wedi penderfynu lle'r oedd y twll i fod, roedd un dyn yn dal ebill haearn, wedi ei finio fel diemwnt, a'r llall yn taro'r ebill, ac yntau yn ei droi ar ôl pob trawiad.

Roedd y twll yn y clawdd yn hen le braf wedi'r cyfan.

Wedi oedi am beth amser mae'r ddau'n mynd yn araf deg at y twll, ac yn gweld mai wedi torri yr oedd y fuse.

Pluen i Tinning ar dwll 16, a Howell yn ildio ergyd ar y twll blaenorol.

Fe welwn ni'r ddwy ddraig yn codi o'r twll cyn bo hir, ond paid â bod ofn, welan nhw mohonan ni yn cuddio yn y fan yma." "Ond pam y medd a'r sidan?" "Wel, fe fydd y ddwy yn ymladd heno a bron â thagu eisiau diod.

Yn ôl at y testun: wedi bod wrthi am amser yn tyllu, maent y penderfynu dechrau rhoi powdr yn y twll.

Mae David Park dair ergyd yn well nar safon ar ôl y twll cynta a Phil Price un yn well nar safon ar ôl dau.

Gan mai'r peth cyntaf sy'n angenrheidiol yw cael twll yn y graig, rhaid cael tyllwyr.

A phaid ti â hel hen syniadau gwirion am ddianc neu mi fydda i'n dy gladdu di yn y twll yna yn lle'r sach.

Nid yw pob twll yn gweithio fel roedd y dynion wedi meddwl; mae ambell un yn well na'r disgwyliad ac arall ddim cystal.

Twll du yn ymddangos fel blot yn un o'r tanciau blaen.

Yn awr mae dau ddyn arall yn mynd ati i ddechrau powdro'r twll.

Cyn i'r ddwy sobri rhuthrwyd hwy i Ddinas Ffaraon, fel y gelwid y bryn yn Eryri, eu sodro mewn twll digon gwlyb a'u claddu o'r golwg.

Bydd golau'r gannwyll yn pasio trwy'r twll yn y cerdyn, trwy'r bowlen, gan ffurfio delwedd ar y cerdyn gwyn.

Defnyddiwch Ungroup ar y copi ac addaswch y copi i wneud llun o'r llosgydd Bunsen gyda'r twll aer yn agored.

Ond methodd Terry, druan, a dysgu nes mynd i dreulio mwy a mwy o'i fywyd yn Uned Gaeth Ysbyty'r Eglwys Newydd - llai erbyn hyn yn y twll 'ma.

Gan glymu un pen i'r rhaff o gwmpas boncyff coeden gollyngodd ei hun i mewn i'r twll du, drewllyd.

Wrth ymyl y twll mae eisiau rhoi'r badell fwyaf y medri di gael hyd iddi, ei llenwi hi gyda medd ac yna ei gorchuddio gyda sidan." A dyna'n union wnaeth Lludd.

Bydd pwy bynnag sy'n curo'r twll cyntaf yn colli'r gêm.

Muriau clai a tho gwellt oedd iddynt hwy a dim ond twll yn y to i'r mwg ddianc trwyddo.

Mae'n ddigon tebyg i'r duedd (ar echel arall) i rai deithio'r byd gan weld adlewyrchiad o Gymru ymhob twll a chornel.

Ar ei phen hi, y tu ôl i graig, roedd twll bach - y fynedfa i `Ogof Angau'.

Nid pawb fyddai'n deall apêl twll anferth llawn dþr, na'r tomenni llechi uchel o'i gwmpas, y 'chwydfa' chwedl R.

Maent yn penderfynu y tro hwn i gael twll ar ganol y graig; felly mae'r ddau dyllwr yn mynd i ben y graig hefo dwy raff fawr, ac yn eu rhoi'n sownd ar y top hefo cerrig, wedyn mae un o'r dynion yn mynd i lawr y graig ar hyd a rhaff i'r lle y maent wedi bwriadu tyllu, ac yn gwneud dau dwll bach yn y graig rhyw lathen oddi wrth ei gilydd.

Tynnwyd y papur, ac yn y twll fe ddowd o hyd i un o'r cyfieithiadau cyntaf o'r Testament Newydd, a'r enw ar ei glawr oedd "Catherine Cadwaladr".'

Yn y tyllau hyn bydd nyth diddos o laswellt yn gymysg â blew'r fam, a bydd hithau yn mynd yno bob nos i roi llaeth y frest i'r cywion ac wrth ymadael yn gofalu cau ceg y twll gyda phridd fel nad yw'n hawdd canfod y fynedfa.

Sylwch ar haenau'r graig o gwmpas hafn gysgodol y Twll-du, y gwaelodion gwreiddiol yw'r copa%on bellach, dyma ran synclein yr Wyddfa, effaith plygiadau'r ddaear dan bwysedd anfeidrol bore'r byd.

Nid ar siawns y dewisir lleoliad y twll ac os bydd cae tro neu ardd yn cael ei thrin yn agos at ganolfan cwningod dyna'r lle y dewis y fam guddio'i hepil.

Safodd Siân a Tudur yn hollol lonydd ac yn hollol fud am funudau hirion gan syllu ar y sach agored yn y twll o'u blaenau.

Mi fydda i hyd yn oed yn siarad efo peiriant twll-yn-wal weithiau.

Yn olaf y drws heb gurwr a chyferbyn â'r llygad y twll ysbi%o bach pitw; trwy beth fel hwn, yn ôl yn Freiburg, y mae'r pensiynwyr unig yn craffu i weld pwy a ddaeth i roi tro amdanynt o'r diwedd.

Taniodd y twll, ac yn eu dychryn rhuthrodd criw o ddefaid o'r cae gerllaw dros y wal bron ar gefn Evan Hughes.

Mi fasa dwy gêm yn erbyn Celtic yn ein cael ni allan o'r twll ariannol bregus yr ydan ni ynddo fo.

Y tal a gawsem oedd chwe cheiniog am fynd rownd y cwrs naw twll a thair ceiniog, gan amlaf o gildwrn ar ben hynny.

Troes y twll, sy'n llawn dþr erbyn hyn, yn gartref yr iâr ddþr a'i chyffelyb, a hed brain ac ydfrain o gwmpas y ddysgl-â'i-phen-i-lawr o awyr sydd yn y dþr.

Os ydych chi yn nôl o eich hunan gewch chi letric sioc ac wedun fyddwch chi wedi marw ac nath hi ddweud dim chwara hefo barcud wrth y weiran na cicio pêl i mewn i'r twll yn yr lon pan mae dyn Manweb yn gweithio neu gewch chi eich lichio ym mhell i ffwrdd ac wedun cafodd pawb bresant; gan Paul de-Waart.

Y peth cyntaf oedd yn rhaid ei gael oedd twll yn y graig er mwyn chwythu darn ohoni allan.

Miloedd ar filoedd ohonyn nhw'n llenwi pob twll a chornel o'r Ddinas.

Cofiwch am y penwythnos o ddathlu llawen yn Aberystwyth wrth i'w Mawrhydi ymweld â'r dref -- penwythnos Twll Tîn i'r Cwîn, a gynhelir yn y Cwps.

Fe archwilion ni bob twll a chornel.

A dyma'r trydydd chwythiad ar y biwgl yn dweud fod pob twll wedi 'mynd allan', a'i bod yn berffaith ddiogel i bawb fynd yn ôl at eu gwaith, a mawr yw'r cerdded o gwmpas y domen gerrig a ddaeth i lawr, a'r ddau greigiwr â'u golwg at i fyny o'r lle y daeth y cerrig, i edrych a yw hi'n ddiogel i'r dynion fynd yno i weithio.

Roedd twll arall yn y beipan!

Os oedd twll yn nho'r ysgubor, oedd diben ei drwsio?

Wedi tyllu tipyn ar y cerrig bras sydd ar lawr maent yn llenwi'r twll o'r bron hefo powdr ac yna rhoi tipyn o faw i orffen ei lenwi ac yn ei guro i lawr er mwyn ei wneud yn airtight a thanio'r fuse yr un fath â'r twll mawr.

Ar y blaen mae'r Gwyddel Paul McGinley sydd chwe ergyd yn well na'r safon ar ôl 15 twll.

Amhosibl yw anwybyddu, i enwi ond ychydig, y sychder a'r rhyfeloedd yn Eritrea, Ethiopia, Swdan a Somalia; trychinebau Bopal, yr Exon Valdes a'r Braer, dylanwad damweiniau Chernobyl a Three Mile Island, y twll yn yr haenen Osôn, coedwigoedd diflanedig Brasil a Bafaria, llifogydd Bangladesh ac felly ymlaen.

Roedd y tyllau'n wahanol eu maint yn ôl sefyllfa'r graig; byddai twll gweddol fychan ei hyd yn ateb y pwrpas weithiau, tra byddai eisiau twll mwy dro arall.

'...A'r polîs yn dweud ei fod yn beryglus dros ben,' ebe Tudur gan godi ar ei draed yn frysiog a dechrau llenwi gweddill y twll â'r pridd a'r tyweirch.

Safai'r garreg ar ei thalcen gan adael twll tywyll yn y llwybr.

Y diwrnod prudd hwnnw pan oeddem yn ei gladdu, a phan oeddwn yn ymwybodol yn hytrach nag yn gweld y cannoedd o bobl a ddaeth ynghyd yr wyf yn cofio fy mod yn synnu wrth feddwl i dwll mor fychan y rhoddid Abel, ac am y twll mawr a adawsai efe ar ei ôl na allai neb ei lenwi.

Roedd Ian Woosnam un ergyd yn well na'r safon ar ôl 16 twll.

Beth sy'n digwydd i'r mwstard a berw'r dwr wrth iddynt dyfu?A fedrwch weld y coesynnau'n plygu ac yn pwyso tuag at y goleuni sy'n dod trwy'r twll?

Wrth ddod o'r twll (sef y tan ddaear) un bore ychydig cyn amser cinio, trodd y prif oruchwyliwr i'r stabl ato a gofyn: "Sut fwyd wyt ti'n 'i roi i'r ceffyl ma?" Atebodd hwnnw: "Tebyg i fwyd labrwr." Cymeriad arall oedd Wil Lloyd Penbryn ac ar un adeg yn gweithio hefo dau o'i geffylau yn un o chwareli'r ardal.

'Roedd twll o faint deuswllt yn y pen.

Er i reilffordd, - boed honno'n llinell gul neu n llinell letach, - ddod i gludo cynnyrch y chwareli yn y man a dim galw mwy am y ceffyl ynglŷn â hynny o waith, roedd yna lawer o geffylau yn gweithio tu fewn i'r chwareli, yn llusgo wagenni a sledi - yn llwythog neu fel arall - ar y ffyrdd haearn a oedd yn gwau ac yn cyrraedd i bob twll a chongl mewn chwarel.

Maent yn dechrau tyllu hefo'r ebill a alwant yn Bitcher; pitch yn golygu dechrau'r twll.

Ar ôl y saethu mawr mae'r cerrig sydd wedi dod o'r graig yn rhy fawr i neb fedru gwneud dim â hwy, ac felly rhaid cad twll eto ym mhob carreg, ond ddim yr un math o dwll â'r cyntaf: twll singl hand y gelwir hwn gan mai un dyn sydd yn ei wneud; ebill bychan sydd ganddo ac mae'n taro a throi ar ei ben ei hun.

Gwaith budr iawn ydi hwn gan fod y dwr yn y twll a'r dyn yn taro ar yr ebill nes bydd y dwr yn sblasio i bob man.

"Reit Llefelys, mae popeth yn barod, y twll, dysglaid anferth o fedd a sidan tenau - a drud hefyd os caf i ddweud - drosti.

Ym Mhencampwriaeth Tyllau'r Byd yn Wentworth mae Padraig Harrington un twll ar y blaen yn erbyn Bob May, Nick Faldo dri thwll ar y blaen i Darren Clarke ar ôl deunaw twll.

Ar ganiad bron, y prynhawn hwnnw, fe ddaeth llwyth o gerrig o'r twll i ____, a phenderfynodd yntau ofyn iddo'r peth cyntaf bore trannoeth.

Fyddai neb yn ei adnabod o erbyn hyn gan fod cymaint o amser er pan aeth o oddi yma, ond eto mi fyddai o'n gwybod am bob twll a chornel yma.

Peidiwch a thaflu carag i mewn i'r twll neu cewch eich taflyd ochor arall.

Gosodwch gannwyll fechan yn gadarn ar darn o glai fel na fydd yn disgyn drosodd, a goleuwch hi'n ofalus gan wneud yn siwr fod y fflam gyferbyn a'r twll.

Gwthiais y gwelltyn i'r twll a'i sipian yn braf, yna'i basio ymlaen i Bigw.

"Ac yn y fan yma mae anrheg Monsieur Leblanc i'r gelyn." Trawodd Henri ei fys ar y map mor wyllt fel y bu bron iddo dorri twll yn y papur cras.

I bobl na allent fewnforio bwydydd o wledydd tramor, amser pryderus oedd twll y gaeaf.

Tyfwch rywfaint o hadau mwstard a berw dwr ar sbwng llaith mewn soser ac yna rhowch ef mewn blwch cardbord a chau'r caead.Torrwch dwll bychan yn ochr y blwch, a'i adael ar sil ffenestr y gegin gyda'r twll yn wynebu'r ffenestr.Sylwch ar y blwch yn rheolaidd, a dyfrhewch yr hadau mwstard a berw'r dwr.

Roedd twll y corn simdde'n enfawr a'r tân coed islaw yn taflu goleuni coch mewn cylch bach.

Gwylient y llafn o olau yn goleuo'r twll, yna'r dyn yn camu'n ofalus i mewn iddo.