Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

twndra

twndra

Y mae yna gred gyffredinol fod yma doreth o ddŵr wedi ei gaethiwo yn rhewllyd mewn cilfachau dyfnion o'i mewn yn union fel y ceir rhew parhaus o fewn y Twndra yma ar y Ddaear o fewn yr Artig oer.

Bu i'r gwres o'u crombil doddi'r Twndra a chynhyrchu miliynau o gilomedrau ciwbig o ddŵr a ymwthiodd trwy'r wyneb i ffurfio'r all-sianelau mawrion.

Sylwyd hefyd ar sianelau all-lifeiriant gymaint â deg cilomedr o led yn driphlith driphlith hyd lethrau'r mynyddoedd tanllyd a hyd yr iseldiroedd yn ogystal ac y mae'n debygol i'r rhain gael eu ffurfio pan doddodd rhew y Twndra yn sydyn gan adael ceulannau ar ei ôl.