Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

twr

twr

Gwelodd Galileo yn gyntaf fod cerrig o wahanol siapiau a maint yn cymryd yr un faint o amser i gyrraedd y llawr o ben Twr Pisa.

Daeth chwarelwr if anc go uchel ei gloch i mewn, ac meddai, er mwyn cael tipyn o hwyl ar draul Francis, 'Mae nhw'n deud i mi, Francis, fod pob carreg sydd yn y twr 'na wedi costio punt i Assheton Smith.'

Roedd nifer o'i noddwyr yn aros amdani ar waelod y twr gyda'u hanadl yn eu dwrn ond mi gyrhaeddodd y curad dewr yn ddiogel ar y llawr wedi codi swm sylweddol o arian.

Ar y grib nefolaidd cawsom hufen iâ, gwin a gwledd o olygfa i lawr dros y pîn i'r smotiau tai a'r twr eglwys a oedd fel rhithlun yn nhes haul y dyffryn.

Atyniad arall o fewn y Twr oedd y gwyliwr, Gethin Fychan o dylwyth Gwyn ab Ednywain o Eifionydd.

Ei gred, fel amryw o'i gyfoeswyr, oedd fod y Gymraeg yn tarddu o'r Hebraeg ac y gellir olrhain ei tharddiad yn ôl i'r cymysgu ieithoedd a ddigwyddodd adeg helynt Twr Babel.

Ar fy nghyfer, roedd twr o bobl ifainc a gwelwn ferch yn eu canol yn sychu dagrau.

Gallai'r stiward, o'r bonc islaw, weld ffrynt y twr, ond ni allai weld y tu ôl iddo.

Wedi munudau hirion ymddangosant ar falconir twr a ninnaun edrych lan megis tyrfa mewn ffilm am y canol-oesoedd.

Aethom draw at y twr lleiaf ar y chwith i gael hoe a phaned.

Gyda'n bod ni wedi cyrraedd yr awyr agored, roeddwn yng nghanol twr o fechgyn, a chwestiynau yn dylifo ataf o bob cyfeiriad.

Prif atyniad y castell oedd y Twr, twr sgwâr a godwyd gan eu hen daid, Iorwerth Drwyndwn.

O ben y Twr gellid gweld gweundir Hiraethog ar un llaw a Bwlch y Gorddinen ar y llall.

Ond chwarddodd y twr bechgyn yn galonnog, a heb ddangos unrhyw ddig tuag ataf.

Pan agorwyd sinc newydd yn Hafod Owen gwelwyd fod yn rhaid adeiladu twr uchel i gynnal cadwyni'r 'Blondin', ac i Francis yr ymddiriedwyd y gwaith o'i godi.

Un peth a ddigwyddodd yn ddiweddar allan o'r cyffredin oedd, bod y Parch Ruth Moverley, Curad Cynorthwyol, Llangynwyd a Maesteg wedi abseilio lawr o ben twr yr Eglwys.

'Twr o farchogion' ydynt.