Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

twrci

twrci

'Roeddwn i'n edrych ar fap ddoe cyn dod i lawr a mae jyst uwchben Iran a 'chydig i'r dde o Twrci.

Aeth yr awyren hebddo ac wedi ail-bacio'i fagiau roedd ar ei ffordd i dde-ddwyrain Twrci.

Ar y llaw arall y mae John Major yn gwisgo wyneb fel twrci sydd wedi clywed bod y Nadolig ar y trothwy.

Mae Twrci trwodd i rownd wyth ola un o'r prif gystadleuthau pêl-droed am y tro cyntaf erioed.

Curodd Twrci Wlad Belg, un o'r ddwy wlad syn trefnu Euro 2000, 2 - 0 yng Nghrwp B ym Mrwsel.

Am eu bod ar wasgar yn Iraq, Iran, Twrci, Syria a'r Undeb Sofietaidd, does neb yn siwr beth yw eu nifer.

Ceisiasom bopeth - twrci mawr a'r holl addurniadau a âi gydag ef, coeden Nadolig nobl a sacheidiau gan Siôn Corn.

Yn ôl rhai sylwebyddion gallai Twrci ddefnyddio argae Ilusu fel arf wleidyddol drwy atal llifr afon Tigris i Irác a Syria.

Mae'r Cwrdiaid yn gweld y cynllun hwn i godi argae Ilusu a boddi eu terfi a'u pentrefi fel rhan o strategaeth fwriadol Twrci i ddinistrio eu diwylliant a'u ffordd o fyw unwaith ac am byth.

Mae'n bosibl iawn mai'r Groegiaid oedd dyfeiswyr y math hwn o chwedl - a hynny pan oedd y Groegiaid yn byw ar y tir a elwir yn Twrci heddiw.

Yr uchafbwynt i mi, mae'n debyg, oedd y cyfnod rai wythnosau ar ôl y rhyfel pan gefais groesi Twrci i Ogledd Irac i ddilyn tynged y Cwrdiaid.

Maent hefyd am weld Twrci yn dod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd - bu meysydd awyr milwrol Twrci yn ganolfannu cyfleus iawn i alluogi awyrennau yr Taleithiau Unedig fomio Irác.

Wedi curo yng Ngwlad yr Iâ ac yna curo Twrci hefyd o bedair gôl i ddim yng Nghaerdydd, roedd geirie Mike yn llifeirio.

Mae ymgyrchwyr amgylcheddol, cenedlaetholwyr Cwrdaidd a'u cefnogwyr yn ymgyrchu yn erbyn y llywodraeth Llafur Llundain a'i bwriad i roi cymorth economaidd i wladwriaeth Twrci adeiladu argae a fydd yn golygu boddi ugeiniau o bentrefi Cwrdaidd.

Sweden a Twrci, a gollodd eu gemau agoriadol yng Ngrwp B syn chwarae heno.

Pan brioda Shôn a minnau Fe fydd cyrn ar bennau'r gwyddau Ieir y mynydd yn blu gwynion Ceiliog twrci fydd y Person.

Meddyliwch: dim fricasee, risotto, cyrri, risols twrci tan ddiwedd mis Mawrth.

Bwriad llywodaeth Twrci yw codi argae hydro-electrig Ilusu ar afon Tigris ryw 75km o'r ffin â Syria ac Irác, sef cadarnle'r diwylliant Cwrdaidd.

Am y rheswm yna, falle, wedi cael cymaint o amser i feddwl am ein cychwyn da a'n gobaith o gyrraedd Sbaen, fe gyrhaeddais i stâd o nerfusrwydd go arw cyn y gêm nesa allan yn Twrci.

Fe gymrodd hi ryw dridiau ar ôl glanio yn Ankara i groesi Twrci a symud o un ganolfan filwrol i'r llall cyn y gallwn gael hofrennydd i'r mynyddoedd.

Bwriada'r cwmni ddatblygu proses newydd o ddatrannu a gwerthu'r cig ar sail profiad llwyddiannus gyda'r twrci.

Ar yr un pryd, roedd America yn defnyddio ei chanolfan yn Incirlik, Twrci, i oruchwylio'r sefyllfa o'r awyr.

Dim twrci, dim 'Dolig.

Dim pigau pin yn sownd yn y carped tan fis Mai; dim rhochian blynyddol Modryb Matilda ar ôl joch o port; dim crensian papur lapio'n slei bach i deimlo'r anrheg; dim anghofio codi am chwech y bore i roi'r twrci yn y popty; dim Ryan yn canu "Ai hyn yw'r Nadolig pwy a ţyr?" ar bob yn ail raglen radio; dim chwilota mewn hen gist am goron Caspar neu am ddoli go lân i orwedd yn y preseb; dim 'Dolig!

Ond wedyn penderfynodd mai'r peth gorau iddi ei wneud oedd gadael y rhan fwyaf o'r siopa tan yfory a gofyn i Emyr brynu twrci a choeden yn unig i ddechrau.

Cawsom ginio ardderchog er gwaethaf y prinder a daeth un o arbenigwyr yr ysbyty, Mr OV Jones, i dorri'r twrci ymhob ward.

Yn yr ail le cawn genhedloedd canolig eu maint, gyda miliwn a hanner hyd at bedair miliwn o drigolion, neu o leiaf diriogaeth fawr, fel yn achos y Ffindir a Norwy: dyna'r Tsieciaid, y Slofaciaid a'r Croatiaid yn yr Ymerodraeth Habsburgaidd; Rwmaniaid, Serbiaid a Bwlgariaid o dan Twrci; a'r Gwyddelod, y Catalaniaid a'r Fflemingwyr yn y Gorllewin.

Gadawodd nodyn ar y bwrdd i atgoffa'r bechgyn i alw gyda'r pobydd, ac i gofio cynnig paned i Mr Davies pan ddeuai â'r twrci.