Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

twristiaeth

twristiaeth

Mae'r diwydiant twristiaeth yn arbennig yn dioddef o gyflogau isel ac yn dioddef amrywiaethau tymhorol.

Safle hollol dwyieithog, yn cynnwys gwybodaeth am busys, ysgolion, y tywydd a twristiaeth.

Pentref bychan yr anghofiodd twristiaeth amdano yw Susauna ei hun: dau deulu o bobl ddieithr a welais hyd yn oed yn rhan isaf y cwm.

Twristiaeth ydi'r ffon fara bwysicaf ac mae'n wir dweud bod y lonydd culion yn frith o sgwteri a motobeics er bod yna wasanaeth bysiau cyhoeddus rhagorol a rhad.

Cytunodd y Pwyllgor Polisi (drwy'r Is bwyllgor Twristiaeth) i argymmell fod swydd newydd yn cael ei greu i fy nghynorthwyo.

Dywedodd wrth "Taro Naw" nad oedd y diwydiant twristiaeth yng ngorllewin Iwerddon wedi ffynnu drwy fod yn wrth-Seisnig ac y dylai Cymry Cymraeg newid eu hagwedd.

Rhaid gwneud ymdrech i ymestyn y tymor twristiaeth a chynyddu gwariant y twristiaid er mwyn creu swyddi sydd yn talu'n well, ac ar hyd y flwyddyn gyfan.

Er mwyn ceisio ennill arian tramor 'caled' - hynny yw, doleri y gellir eu defnyddio i fewnforio nwyddau - mae'r diwydiant twristiaeth yn cael ei ddatblygu ar frys, ac yn y ffordd iawn.