Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

twyllo

twyllo

Wrth wthio'n ffordd drwy'r swyddogion ac eistedd i lawr yn y neuadd o flaen Heng Samrin, fe ddaeth hi'n amlwg nad oedden ni'n twyllo neb, achos dirprwyaeth o Sri Lanka oedd y bobl o flaen ac wrth ochr yr Arlywydd.

Ymwneud â'r masg anorfod a wisga dyn, y diffyg cyfathrebu sy'n bodoli yn ein mysg, osgoi a methu wynebu realiti, twyllo a dweud celwyddau, a'r dirgelwch sy'n bodoli ynglŷn â dyn.

Ddaru nhw ddim twyllo neb wrth gwrs.

Creodd Gwydion geffylau, cŵn a chyfrwyau drwy hud a lledrith er mwyn twyllo Pryderi a dwyn ei foch.

Mi fydden ni'n twyllo'r palas ein bod ni'n rhan o'r ddirprwyaeth.

'Roedd Kath yn meddwl y byd o Haydn ond llwyddodd Mark i chwalu'r berthynas drwy ddweud fod Kath wedi twyllo cwmni yswiriant.

Amheuai eu gogwydd tuag at Gatholigiaeth a'u gwrthwerinoldeb, bid siwr; eithr yr hyn a barai'r anesmwythyd mwyaf iddo oedd parodrwydd digwestiwn eu hadwaith: 'Nid wyf yn hoffi ffolineb y Sais; ond nid wyf yn hoffi ychwaith ffolineb Ffrainc, ac ni all haeriadau Ffrainc fod ddim mymryn mwy deniadol i'm twyllo na haeriadau Lloegr.' Yn ei hanfod, ymryson oedd dadl Gruffydd a Lewis ynghylch pwy oedd gwir gynheiliad 'yr hen ddiwylliant Cymreig.' Yr oedd diffiniadau ehangach o'r cychwyn yn iswasanaethgar i Gymreigrwydd y ddwy estheteg a bleidiwyd.

O ie, y gosb am ein twyllo, fe ddylen ni sôn am hynny' 'Cosb am dwyllo?' 'Ie, os byddi di'n cymryd arnat dy fod wedi cyflawni tasg, ond heb neud hynny, mi fydd yna gosb.' 'A be fydd honno?' 'Sypreis, was.

Mae arna i ofn y byddwn i'n twyllo fy hunan yn llwyr pe bawn yn esgus bod adroddiad Cymraeg ar orsaf deledu leiafrifol wedi agor y ffin i'r Palestiniaid.

Beth bynnag fydd canlyniad y treial, fedran nhw ddim twyllo'u hunain eu bod nhw wedi cau'r achos.'

Roedd gwylio awyrennau'n ddifyrrwch beunyddiol gartref yn Surrey a theimlodd Carol ronyn o euogrwydd wrth eu twyllo.

Twyllo ofer!

Ai twyllo fy hun yr oeddwn i gelu fy ngwendid, neu hyd yn oed lwfrdra?

A pha mor bwysig oedd twyllo yn ystod y seremoni yfed hefyd.

Y mae fel pe bai'n eich twyllo rywfodd.

Ac fel arbenigwr ar gelloedd, mi alla i dy sicrhau di nad ydi o'n brofiad y gelli di ein twyllo ni yn ei gylch.

"Sgwennu% oedd pob llyfr arall, hyd yn oed rai fel y Rhodd Mam, ac yn fwy fyth y 'Fforddwr, oedd yn cymryd arnynt fod yn siarad ac yn twyllo pobol efo golwg eu tudalennau i ddisgwyl sūn geiriau nid eu siap.

Yn ôl pob golwg, medd fy nghyfaill, roedd nain y sawl a oedd yn cadw'r llinell wedi ei eni yng Nghymru a bod y Celtiaid wedi twyllo eto.

Yn ei araith groeso ar ôl cinio ganol dydd y diwrnod cyntaf, dywedodd y Maer na wyddai'n iawn beth oedd amcanion y mudiad yr oedd yn ei groesawu, ond ei fod yn credu y byddai'r mudiad yn gwneud gwasanaeth mawr i Gymru pe gallai beri i'r byd alw Brythons arnom yn lle Welsh: cawsai ef brofiad chwerw mewn busnes am fod yr un gair Saesneg yn enw ar y Cymry ac yn ferf a oedd yn golygu twyllo.

Ond peidiwn â chymryd ein twyllo.