Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tybiais

tybiais

Tybiais mai'r sefyllfa filwrol oedd yn gyfrifol am hyn, ond yna gwelais un o swyddogion y Cenhedloedd Unedig yn gwenu.

Gydag arogl arbennig yn cyrraedd y ffroenau tybiais fod yr Iddewon yn iawn.

Wedi i'r Alban faeddu Lloegr dros y Sul a'u hamddifadu o'r gamp lawn, tybiais mai'r peth Cristnogol i'w wneud fyddai peidio ffonio a gadael i'r briw rygbi iachau'n raddol.

Wrth i mi raddio o Academi Filwrol Merched Libya, tybiais fod y cyflwyniad wedi cael ei lwyfannu er mwyn cyflwyno neges arbennig - ymddiheuriad, efallai, am fod y wlad wedi tynnu'r fath elyniaeth i'w phen.

Tybiais mai pwrpas y pedwar gwersyll oedd cymell y plant i chwarae, canu a dawnsio i gyfeiliant 'Y Llyfr Gwyrdd' - ond roeddwn yn gwbl anghywir.

Tybiais taw doethach fyddai ei gynnal ar y clogwyn yn y man lle buoch yn ymgynnull y noson o'r blaen.

Tybiais i mi glywed y gair 'bresychen'.

Yng nghanol yr holl symud a'r bwrlwm a'r gwahanol arogleuon a oedd yn codi o'r lle, tybiais fod fy ffroenau yn chwarae tric â mi.