Wrth greu categori 'y rhamantau' neu 'y tair rhamant' pwysleisiwyd gennym nodweddion a barai fod Peredur, Iarlles y Ffynnon, Gereint ac Enid rywsut yn sefyll ar wahân braidd i brif ffrwd y testunau rhyddiaith storiol 'brodorol' (ac nid oes rhaid ailrestru nodweddion tybiedig y rheini yma), ac aethpwyd ati i'w cymharu â'i gilydd er mwyn darganfod y priodoleddau cyffredin a allai gyfiawnhau eu gosod oll yn yr un dosbarth.
Yn raddol, drannoeth, gwawriodd arnom ein bod wedi ein dal yn llwyr gan y Bos, a'i fod ef wedi bod yn tynnu coes yn ddidrugaredd, ond gan fod y manylion tybiedig wedi'u plethu i mewn i r cefndir a'r lleoliad dilys yn gelfydd iawn, hyd yn oed tadogi'r stori ar Mr Merfyn Morgan, y Prif Uwch-Arolygydd â gofal am Adran "D" o Heddlu Dyfed-Powys, roeddem wedi credu'r stori'n llwyr.
Anghydwelai Gruffydd a Saunders Lewis a'i gymheiriaid tybiedig am gyfuniad cymhleth o resymau; yr oedd rhagor na'u 'syniadau gwleidyddol' yn achos digofaint iddo.
Yr oedd ar raglen y Gynhadledd gynnig oddi wrth un o ganghennau'r Gogledd, yn galw am ymwrthod â pholisi economaidd tybiedig y Blaid, a mabwysiadu polisi pendant sosialaidd; yr oedd y cynnig yn faith iawn, gan ei fod yn manylu'n llawn am yr hyn a olygid.
Gwelir yr elfennau sy'n tarddu o hanes, a'r rhai onomastig, ond y mae'r rhan fwyaf yn nodi problemau ynglŷn â'r gwaith am fod yr arwr tybiedig, Culhwch, yn cadw ar gyrion y stori, gan adael cyflwyno'r tasgau arwrol i Arthur, a bod hwnnw yn ei dro 'dan law' y cawr ynfyd Ysbaddaden Bencawr.
Canys mwy trist na thristwch oedd deall mai Miriam oedd yr unig blentyn punp oed a siaradai gymraeg o blith naw o blant a dderbyniwyd i ysgol Llangybi y flwyddyn honno wedi gwyliau'r haf, a hynny yn un o gadarnleoedd 'tybiedig' yr iaith.
does dim llawer o wahaniaeth rhwng nofel a stori fer chwerthinllyd yw'r holl ddiffiniadau eisteddfodol o'r gwahaniaeth a'r ffiniau tybiedig rhyngddynt mae'r naill yn naratif hir a'r llall yn naratif byr.