Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tycio

tycio

Cydgerddodd y ddau i fyny'r allt, ac yntau'n ceisio tynnu sgwrs â hi, ond doedd dim yn tycio.

Ymbiliais yn daer - a bygythiais beth hefyd - ond nid oedd dim yn tycio.

Nid oedd dim yn tycio.

Ond daliodd Waldo at ei fater a dweud ei fod am brynu'r lamp ond nid oedd dim yn tycio - 'roedd y siopwr wedi penderfynu nad oedd arno mo'i heisiau!

Ond na, nid oedd dim yn tycio bellach ond turchio i'r gorffennol pell, gorffennol a oedd wedi hen suddo i waelodion yr eigion i bawb ond iddo ef.

Wil oedd y gwas bach, tua phedair ar ddeg oed, a'i ben sgwâr, a'i wyneb fflat, gwelw; byddai'n gwlychu'r gwely, er i f'ewythr Vavasor roi cynnig ar lawer meddyginiaeth, ond doedd dim yn tycio, a Gwladys yn ddig bob bore y byddai'n gorfod llusgo'r matras gwlyb i lawr y grisiau cerrig o'r llofft stabal.