Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tydi

tydi

Mae diwedd y fileniwm yn swnio'n bell i ffwrdd; tydi o ddim.

"Tydi hi'n anodd deud y dyddia ma a phawb yn gwisgo'r un fath?

'Tydi'r ystol yn y ty gwair, yn pwyso'n erbyn y gowlas, 'run lle ag y bydd hi bob amsar.' 'Ond, Miss Willias.' 'Ewch i' 'nôl hi, Norman.

Mae pob mudiad yn gwerthfawrogi eu hen wynebau ynghanol llanw a thrai yr aelodaeth gyffredinol a tydi Cymdeithas yr Iaith yn ddim gwahanol i hynny.

Mi fedra i ei glywed o 'nghwmpas ym mhob man - ar wahân i arogl lledr, glud, cemegolion a defnyddiau crai eraill.' Tydi hynna ddim yn wir,' meddai, gan gasa/ u dweud celwydd, ond yn ceisio'i hargyhoeddi ei hun mai dyna'r unig amddiffyniad yn erbyn y diwydiannwr hwn oedd mor annioddefol o lwyddiannus.

"Tydi'r crysa ma i gyd yn edrach ru'n fath am ugain munud wedi wyth y bora%.

Tydi a'n creodd ni; arnat Ti yr ydym yn dibynnu bob eiliad o'n hoes.

Tydi ei Saesneg yntau ddim yn wych er ei fod yn groesawgar iawn.

Rydach chi'n delio efo 'bydoedd', fel cyweirnodau mewn ffordd: fedrwch chi ddim dod â'r peth 'yma' i mewn i'r byd arbennig 'yma' achos tydi o ddim yn perthyn, ddim yn gweithio.

Wel mi gan nhw eu gorfodi dwi'n credu, gan amgylchiadau, i ddod i delerau efo'r sefyllfa oherwydd faswn i'n meddwl, er na allaf siarad o brofiad, ymhlith yr hen oedd y styfnigrwydd yma, yr hen bobl yn ei chael hi'n anodd i symud a newid enwad, neu newid adeilad, addoldy, ond tydi bobl ifanc yn malio fawr ddim am bethau fel hyn, a 'dwn i ddim beth fydd dyfodol yr Eglwys neu'r Capeli os ydi'r bobl ifainc yn troi i fod yn Gapelwyr neu Eglwyswyr unwaith eto.

Ac wrth feddwl am hynny, mae o'n beth rhyfedd, yn 'tydi, fel mae ambell un yn newid pan ddaw o i mewn i'r capel?

Ydyw, mae'r dyn yn gwybod 'tydi - onid ydyw efe wedi gweithio i Mr Rothchilds ei hun, ac wedi preifateiddio pob chwarter moliciwl o fewn ei gyrraedd o'r gias i'r glaw.

Hefyd, tydi rhywun yn gwneud bwyd yn dragwyddol, yn byw o'r un pryd i'r llall.

Mae'r Beibl yn sôn, yn tydi, fod gwraig yn 'debyg i long y marsiandi%wyr a hi a ddwg ei hymborth o bell'.

Yn ystod oes o ildio i'r demtasiwn frown, un peth sydd wedi fy synnu fi'n fawr ydi gymaint mae gwnethurwyr siocled yn edrych tua'r ffurfafen am ysbrydoliaeth - tydi siopa petha da yn gyforiog o Farsus, Galaxis, Milky Wals a Star Bars yn union fel pe bydda'r gwneuthurwyr â'u llygaid o hyd ar y nefoedd honno o lle daeth yr hen Quetzalcoatl i chwilio am damaid o swpar a'i hada Cacao fo mor anhoddadwy â Treets yn ei law fach boeth o.

Dreif on." Na, 'tydi'r brofedigaeth, hyd y gwela i, 'di styrbio fawr ddim ar 'i phlu hi.

a stori arall am boen mawr ei enaid o argyhoeddi'n tydi?

Tydi hi erioed yn llawn o arian?

A gorfod i mi dalu i'r cythral am y dwr yn y diwadd.' 'Trochodd Nain Nyrs flaen ei bys yn un o'r pwcedi a dweud yn sarrug,' 'Tydi hwn yn oer fel rhew gynnoch chi.'

Wedi dweud hynny, tydi hi ddim cyn-drymed â chaneuon fel Topsy Turvy a Plastic Ffantastic.

(e) Tydi arweiniad Duw ddim bob amser yn glir ar y pryd.

Tydi, a Thydi yn unig, sy'n gallu eu symud o dywyllwch anghrediniaeth i oleuni dy Deyrnas.

Does dim byd sinistr tu ôl i hyn, tydi'r man in a grey anorack ddim wedi awgrymu bod hi'n amser i mi dreulio mwy o amser efo 'nheulu, nac yn wir bod hi'n amser i mi gychwyn un.

Tydi o'n biti na fasa hithau'n gallu eu gweld?

'Rūan y plismon plant ichdi,' ysgyrnygodd Nel yn sefyll a'i thraed un bob ochor i ben PC Llong a lledr ei sgidiau sodlau uchel yn cochi'i glustiau, 'tydi Vatilan heb ladd neb yn naddo?'

Tydi, ein Tad trugarog, oedd yng Nghrist yn cymodi'r byd â Thi dy Hun a hynny heb gyfrif i ni ein pechodau.

Tydi sy'n gallu rhoi cyfeiriad i ynni'r ifanc a'i droi'n wasanaeth creadigol.

''Da chi'n gynnas 'nghariad i?' 'Ydw Nyrs, diolch i chi.' 'Tydi o'n beth bach digon o ryfeddod.' 'Ydi, debyg,' atebodd Kate flewyn yn swil.

Tydi'n unig sy'n gallu gostegu'r tonnau a disgyblu'r ddrycin.

"Mae tân sy'n llosgi'n araf drwy'r nos yn well na rhyw dân shafins sy'n diffodd yn sydyn, yn tydi?

Gellir dirnad y siom a'r chwerwedd yng ngwawd y rhai a watwarai Iesu, yn cynnwys y 'lleidr' (gwrthryfelwr, yn bur sicr) a waeddai, 'Os tydi yw Crist, gwared dy hun a ninnau'.

'Wel, dyna ni, mae hi wedi canu arnon ni go iawn rŵan, 'tydi,' meddai Geraint yn wyllt.

Coeliwch neu beidio, mae'n stori bach ramantus, yn tydi.

"Tydi bocsio a rygbi a myn di drwbwl o hyd ddim yn mynd i dy helpu i fynd i'r coleg." Gan mai peilot oedd Douglas eisiau bod, yr oedd yn rhaid iddo astudio yn galed er mwyn cael mynd i goleg Cranwell.

Gofynnwyd iddo lawer gwaith, 'Pam mae'n rhaid i chi gael rhegi bob yn ail gair, Francis?' a'i ateb pendant fyddai, 'Fydda i byrh yn rhegi, tydi'r ddau air rydw' i'n eu hiwsio yn ddim ond g¨iriau llanw, tydy' nhw'n golygu dim, ac mae'r ddau i'w cael ble mynnoch chi yn y Beibl.'

Cwbl nodweddiadol o fyrbwylltra Pedr yw ei gais, yn yr Efengyl yn ôl Mathew: Arglwydd, os tydi yw, gorchymyn i mi ddod atat ar y tonnau, ac iddo, wedi cael caniatâd, ddechrau cerdded ar y tonnau nes iddo edrych ar rym y gwynt yn lle ar ras y Gwaredwr ac o ddechrau suddo, gweiddi: A Arglwydd, achub fi.

Tydi sy'n gallu rhoi iddynt y grymuster moesol i wrthsefyll temtasiynau anfoesoldeb, trachwant a hunanoldeb.

Tydi cael 'ffafrgarwyr llariaidd eu gwên yn lle gwr' ddim wedi gweithio i ni hyd yma a weithith o ddim byth.

Mae i chwi groeso calon, yn siŵr." "Mae hi'n drît i Anti Lw, on'd tydi, Anti?" "Mae gŵydd mor flasus, wrth gwrs," atebodd y foneddiges honno dipyn yn fisi, "ond mae tyrci'n fwy tendar.

'Mae o wedi sgwrsio hefo chi tydi?' 'Rhyw air neu ddau.

Tydi a blannodd y dalent yn eu calonnau a gweddus yw inni dy gydnabod Ti yn ddiolchgar am gynnyrch eu doniau.

"Na," meddai'r plant, "tydi o ddim wedi arfer bod hebddom ni." Rhoddodd Cadi y gath fach Smwt ar ei chlustog a chau'r drws arni'n ofalus, ac wedi gweld bod yr anifeiliaid eraill yn ddiogel, i ffwrdd â'r tri am y cwch ar ôl Huw.

"Roedd mam yn dweud y cawn i fynd efo chi i lan y môr." Yn ddiweddarach, â'r bechgyn yn eu llofft eu hunain, meddai Rolant, "Wel wir, mae'r Iona yna'n ddigon digywilydd yn tydi?

Tydi hi ei hun wedi traethu digon am y cyfnod?

Tydi'r stori ddim yn hir ac mae digon yn digwydd ym mhob pennod i gadw diddordeb y darllenwr.

'Mae'r gwir yn lladd, tydi?' edliwiodd Nel a dyma hi'n estyn ei braich allan ac yn gwthio pen ei bys i ganol ei fol oni chollodd ei gydbwysedd yn llwyr a chwympo'n glewt ar lawr a'i helmet las a'i lyfryn yn fflio ar chwâl i ganol y lôn.

Tydi'r cwestiwn ddim yn hawdd ei ateb yn llawn.

Tydi'r gair 'methu' ddim yn bodoli yng ngeirfa Antur Waunfawr.

Gweddi: Tydi, O Arglwydd, a lanwodd ein calonnau ni â llawenydd.

Tydi'r peth ddim yn naturiol, gweld enillydd y bara ar y clwt; mae'n gwbl groes i'r graen, er gwaethaf y ffaith fod llawer yn yr oes dywyll hon wedi troi'r byrddau a'r gūr yn mynd yn ūr-tū a'r wraig yn mynd allan i weithio!

'Tydi gair Huws Parsli'n profi dim i neb,' meddai PC Llong yn codi i'w draed ac yn plygu ei ddau ben-glin tuag at allan.

Tydi Ifan Paraffîn yn rhedag sbesial bob nos Ferchar, mogra'r saith 'ma, i fynd â'r petha' ifanc 'ma i'r pictiwrs.' 'Ond sut eith yr hwch 'ta?'

Tydi sy'n gallu trawsnewid eu bywyd a rhoi ystyr a gwefr iddo.

Tydi meistr ddim yn gyfoethog iawn." "Digon gwir," ochneidiodd yr ych.

Ailadroddai'n aml: 'Tydi'r hen for yna ddim ffit i neb call'.

'Tydi hynny'n ddim byd, nacdi,' meddai'n ddidaro.