Tyfai'r rheini ddigon ar gyfer pawb a digon i'w rhoi yn stor ar gyfer holl deuluoedd y deyrnas rhwng tymhorau.
Yna clymid dau hanner y goeden yn ôl yn dynn ac fel y tyfai'r goeden yn un unwaith eto byddai'r plentyn yn gwella.
Tyfai ymylwe o flew main o dan y llygaid ac o gylch y genau mân.
O gwmpas deiliad y Goron y tyfai cwlt y frenhiniaeth.
Gwyddai ei fod e yn ei chael hi'n ddeniadol a gobeithiai, ymhen amser, y tyfai'n hoff ohoni, ond credai na fyddai byth yn ei charu gan y cant : ddim ymhen deng niwrnod na deng mis na deng mlynedd.
Tyfai blewiach brith o dan ei drwyn a edrychai fel mwstash heb ei wrteithio'n iawn, ac ar waelod ei ddwy foch roedd cysgodion pinc a roddai ffurf anghynnes i'w wyneb.
Wrth i'w cynulleidfaoedd chwyddo, tyfai'r gweinidogion yn fwyfwy dylanwadol, a daeth yr ardal ddiwydiannol yn faes cenhadaeth deniadol i ŵyr brwdfrydig a dysgedig megis Thomas Rees, Cendl, Noah Stephens a Robert Ellis (Cynddelw), Sirhywi, John Jones (Ioan Emlyn), Glynebwy a William Roberts (Nefydd), y Blaenau.