Am y coed hyn sydd wedi ffrwytho'n sâl oherwydd tyfiant cryf y pren, gellir dirisglo'r goes.
Byddaf yn rhyfeddu þ a diau fod pawb arall a'i gwêl yn rhyfeddu yn yr un modd þ fel y tyf tyfiant iraidd y gwanwyn allan o'r marwor du.
Yr hyn sy'n syndod yw, er fy mod yn bendant y dylid dileu hormonau hybu tyfiant ar BST, mae'n ymddangos bod y farchnad gig cywion yn tyfu a datblygu er ei bod yn wybodaeth gyffredinol bod hormonau tyfiant ym mwydydd y cywion ieir.
Mae'n dal yr ymdeimlad o symud yn shiap y tyfiant, yn y cymylau, ac yn y defaid wrthi'n pori.
Byddai gwasgaru ychydig o wrtaith cyffredinol rhwng y rhesi'n hybu tyfiant y tatws.
(Yng ngwledydd Canolbarth Affrica, y mae'r tyfiant hwn yn effeithio ar blant yn hytrach nag oedolion, ac nid oes sicrwydd fod y ddau yn union yr un afiechyd.) Eto, y rheswm sylfaenol dros ymddangosiad y tyfiant yw cyfundrefn imwn ddiffygiol.
Rhoddir anifeiliaid i bori yn y caeau ym mis Awst a thros y gaeaf er mwyn rheoli'r tyfiant a chynnal y tir glas ar gyfer y tegeiriannau.
Baglai Mathew dros frigau'r creigiau a brwydrodd drwy'r tyfiant yn ddiymwared er bod ei gymalau'n crynu gan ofn.
Erys gwledd i'r synhwyrau o'n blaenau wrth gerdded tua phen pella'r trwyn, ffresni tyfiant ifanc y gwanwyn, aeddfedrwydd cynnes y rhedyn a'r eithin ar bnawn o haf, lliwiau machlud tanbaid yr hydref ac awyrgylch gysglyd y gaeaf yn aros y deffro cyfarwydd, gyfareddol.
Beth bynnag yw'r sefyllfaoedd, dylid eu clymu wrth y tyfiant patrymol hwn.
Torrwyd ein lawntiau ni am y tro cyntaf ar yr ail ar bymtheg o Ionawr eleni, eilwaith ar y dydd olaf o'r mis, dim unwaith yn ystod mis Chwefror, ni bu tyfiant yn ystod y mis hwnnw, ac yna ar y seithfed ar hugain o Fawrth.
Gall fod yn gwrs awdurdodol a gymeradwyir gan y Llywodraeth, ond os yw'n esgeuluso y tyfiant organaidd hwn - pa dyfiant bynnag arall a geir - yna, mae'n mynd i fod yn flêr ac yn wastraffus.
Pwrpas yr hormonau hybu tyfiant oedd llonyddu'r anifail, gan alluogi iddo ddod i fwy o bwysau fel anifail gorffenedig.
Dylid teneuo'r tyfiant newydd o fonion y mafon coch.
Yr unig wybodaeth sydd ar gael am gyfradd tyfiant unrhyw esblygiad biolegol yw'r hyn a gasglwyd trwy astudio bywyd ar y Ddaear.
Roedd gwahardd y defnydd o hormonau hybu tyfiant yn benderfyniad i'w groesawu gan y diwydiant amaeth yn gyffredinol.
Byddid yn arfer llosgi'r gwellt hwn hwfyd fel y llosgid y grug - er mwyn cael tyfiant ifanc yn ei le yn y gwanwyn.
Ymhen amser lledaena'r tyfiant i rannau eraill o'r corff, gan gynnwys yr ysgyfaint, gan ladd y claf yn y diwedd.
Tyfiant o'r Academi Bresbyteraidd oedd yr Academi Annibynnol ond gwelodd gryn dipyn o grwydro yn ystod y blynyddoedd.
Y mae'n wir na pheidiodd Duw â gweithredu o fewn i fyd natur, mewn tyfiant a chynhaeaf a holl arwyddion eraill ei gariad.
Mae plant yn gallu cael tipyn o hwyl wrth eu tyfu a gellid eu defnyddio ar gyfer mesur, cyfraddau tyfiant, etc.
Dosbarth Glyder: Yn dilyn eu thema Tyfiant y mae'r dosbarth wedi bod wrthi'n trin yr ardd ac yn plannu bylbiau blodau ar gyfer y Gwanwyn.
Mae'n amlwg bod y tyfiant tymhestlog yma wedi bod yn rhy gyflym i ni addasu'n syniadau i dderbyn y newydd.
Mae'n debyg mai oherwydd ei hamlygrwydd fel cennad tymor y tyfiant yr enwyd cynifer o blanhigion ar ei hol, rhai sy'n blodeuo tua'r un pryd ag yr ymddengys hithau'n lledrithiol yn ein mysg.
Tyfiant yn effeithio ar gelloedd y croen yw sarcoma Kaposi yng Ngwledydd Ewrop.
Un arall o lwyddiannau y flwyddyn yn ddios fu tyfiant a datblygiad Cwmni Halal o'r Gaerwen, Ynys Mon.
Hongiai ei wallt yn rhacs llwyd dros ei glustiau, ond roedd cylch moel ar dop ei ben, fel mynach, neu fel petai UFO wedi glanio yno rhywbryd ac wedi serio'r tyfiant ar ei gorun.
Oherwydd eu tueddiad i fod yn wlyb ac asidig mae cyfran uchel o briddoedd Cymru yn addas ar gyfer tyfiant porfa arw neu barhaol yn unig.
Pan fyddai'n gweithio wrth y dydd fe gymerai amser i weithio'n hamddenol, ac araf iawn fyddai tyfiant y wal neu'r caban.
Er i'r llywodraeth gydsynio i ddileu hormonau hybu tyfiant, ni wnaed unrhyw ymdrech i ddileu hormonau i hybu llefrith mewn buches odro.
Cyn dyfeisio peiriant torri lawntiau defnyddid gwyddau i gadw tyfiant glaswellt i lawr, mae hwythau hefyd yn pori'n glos i wyneb y ddaear.