Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tyfodd

tyfodd

Tyfodd Rhian i fod yn drefnydd Sir Ddinbych cyn dod yn ôl i gyflawni'r un gwaith yn ei sir enedigol, ac y mae hi wrth law o hyd.

Dros amser collwyd y gair tafarn o'r enw ond tyfodd yr elfen olaf boncath yn enw ar y pentref lle safai'r dafarn.

O gwmpas y rhain y tyfodd cylchoedd barddol bywiog Cwmaman a Brynaman, a thrwy eu dylanwad hwy a cholofn farddol Caledfryn yn Y Gwladgarwr, y meistrolodd cynifer o'r beirdd y cynganeddion.

Felly, tyfodd y patrwm a alwn yn "Ddeddf Disgyrchiant", a chymryd ond un enghraifft.

Tyfodd Marie i fod yn fyfyrwraig o Nyrs, yn eneth garedig a theimladwy oedd yn ennyn parch a chyfeillgarwch ble bynnag y gweithiai.

O dan ei ddwylo efyn anad neb y tyfodd y nofel Gymraeg yn arf lled wleidyddol am y tro cyntaf.

Tyfodd y wladwriaeth yn arswydus mewn grym, gan gasglu mwy a mwy o awdurdod i ddwylo clymblaid yn y canol.

O hynny y tyfodd y casgliad anferth a arddangosir mewn hen warws ar gei Caerloyw.

Tyfodd yn gyflym iawn yn y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ar hyd dyffrynoedd yr afon ac ar y bryniau gerllaw.

Tyfodd chwedl a soniai am Bilat yn troi'n Gristion ac yn marw'n ferthyr; enwir ef ymhlith saint cydnabyddedig Eglwys Ethiopia.

Tyfodd pren o'r ffon a blodeuai adeg y Nadolig.

Ym mis Tachwedd, tyfodd yr ymosodiad yn fwy hysteraidd:

Aeth nifer helaeth o'r bonedd ati nid yn unig i ddarllen hanes ond i'w ysgrifennu hefyd, ac yn araf tyfodd diddordeb brwd mewn bywgraffyddiaeth, ac ymddangosodd hwnnw un ai yn astudiaeth o berson gwrthrychol neu yn gronicl o deulu neu ardal arbennig.

Yn sgîl sefydlu S4C tyfodd diwydiant cyfryngol cryf a llwyddiannus yn yr iaith Gymraeg.

Er iddo gadw llawer o'i gymeriad unigryw, tyfodd i fod yn berson hawddgar.

Tyfodd yma yn y dyfroedd croyw wedi i'w rieni ei gladdu yn un o filoedd o wyau yn y gro.

Tyfodd Herman Jones a Dafydd Owen yn brifeirdd yn ystod eu cyfnod coleg ac Islwyn Ffowc Elis yntau fel llenor.

Tyfodd pentref Llanaelhaearn, fel llawer i lan arall yng Nghymru, o gwmpas yr eglwys.

Tyfodd o hadau eu collfarn hwy gerddi gwarchod lawer a geisiai gelu'r ffaith fod lles y genedl, fel y i gwelid gan ei hyrwyddwyr, yn gofyn gostwng gwerth y famiaith.

Tyfodd nifer y picedwyr yn aruthrol o naw o'r gloch ymlaen.

Tyfodd y label i gystadlu'n uniongyrchol â Crai gyda mwy a mwy o grwpiau ifanc yn ymuno a'r label.

Tra gwahanol i lysoedd brenhinoedd yr Oesoedd Canol ydoedd natur y llys Tuduraidd; tyfodd hwnnw yn aelwyd genedlaethol ac i fod yn gymhlethdod o ystafelloedd neu siambrau ysblennydd a'r brenin yn ganolbwynt yr olygfa odidog a'r mynych seremoniau.

Tyfodd degau o fudiadau a grwpiau bychan, oll â syniadau gwahanol ynglŷn â sut i barhau'r frwydr.

Tyfodd y ddinas yn y lle cyntaf yn y dyffryn lle y mae Afon Sheaf(sydd yn rhoi ei henw i Sheffield) yn cyfarfod â'r Afon Don.

Yn ei sgîl tyfodd difyrrwch yn ddiwydiant enfawr.

Ar ddiwedd y Mileniwm ymddeolodd Huw Tregelles Williams fel cyfarwyddwr cerdd y Gerddorfa, yn dilyn gyrfa hynod gyda BBC Cymru lle tyfodd statws y Gerddorfa yn aruthrol.

Er gwrthwynebiadau gwleidyddol (ac yn aml, ansicrwydd gwyddonol), yn ystod y chwarter canrif ddiwethaf, trawsnewidiwyd ein hamgyffred o'n dibyniaeth ar yr amgylchedd - tyfodd ymwybyddiaeth newydd ac, yn araf, blaenoriaethau newydd.

Er i grefydd a chrefft yr India ddylanwadu ar wareiddiad Cambodia, mewn amser tyfodd y gwareiddiad hwn i fod yn arbennig o nodweddiadol o'r genedl ei hun yn Angkor.