Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tymheredd

tymheredd

Yn yr ardaloedd mynyddig ceir glawiad uchel, tymheredd isel ac ychydig o heulwen o'i gymharu a'r ardaloedd yn yr iseldir.

Olion afonydd Ond maentumir nad oedd Mawrth yn rhewllyd trwy gydol ei hoes oblegid yn ystod ei dyddiau cynnar credir fod yma gynhysgaeth gref o nwyon yn byrlymu o fynyddoedd tanllyd ar hydddi gan greu atmosffer trwchus o'i gylch ac yn cadw gwres yr haul rhag dianc ac o'r herwydd yn codi tymheredd arwynebol y blaned.

Y canlynol yw'r achosion fynychaf: afiechyd (fel dolur y galon, is thyroidedd, ac anallu i symud); methiant y corff i adnabod gostyngiad gwres yn ddigon cyflym, fel na all y person grynu a chymryd mesurau i ymdwymo; cyffuriau (fel Largactil a'r ddiod feddwol i ormodedd); a'r achos pwysicaf oll, sef cwymp y tymheredd i radd rhy isel i'r corff fedru ymdaro ag ef.

Dywedodd entomolegydd (person sy'n astudio pryfetach yn broffesiynol) wrthyf yn ystod un gaeaf caled fod y mathau sy'n gaeafu yn y ddaear yn treiddio'n ddyfnach fel y disgyn tymheredd pridd er mwyn ceisio amddiffyn eu hunain tuag at oroesi i dymor arall.

Cofier fod Mawrth ymhellach oddi wrth yr haul na'r Ddaear ac o'r herwydd mae tymheredd arwynebol Mawrth oddeutu rhewbwynt dŵr yn barhaus, er mai'r unig dystiolaeth bendant sydd ar gael o fodolaeth dŵr arni yw yng nghyffiniau ei dau begwn.

Os yw bywyd ar unrhyw blaned i ddatblygu hyd at stad uwchddiwylliadol yna mae'n rhaid i'r blaned honno ymateb i dri o ofynion o leiaf; rhaid i'w chyfansoddiad cemegol fod yn debyg i un y Ddaear; rhaid i'w phellter o'i haul sicrhau bod tymheredd ei harwyneb rywle rhwng rhewbwynt a berwbwynt dwr; rhaid i'w haul fodoli am ddigon o amser er mwyn galluogi bywyd deallgar i ddatblygu, sef rhyw ychydig o filoedd o filiynau o flynyddoedd.

Yr oedd yn rhaid i'r gweithiwr ffwrnais roddi'r platiau'n drefnus yn y ffwrnais, rhai yng nghefn y ffwrnais, eraill yn yr ochrau a rhai yn y blaen, a'u symud o'r naill le i'r llall fel y byddent oll o'r un tymheredd.

Mae tair ffordd y gall egni gael ei ddefnyddio gan y corff: (a) Egni a ddefnyddir ar gyfer 'gwasanaethau hanfodol' e.e., curiadau'r galon, cynhyrchu gwres er mwyn cynnal tymheredd y corff.

Ym Mhrydain gwnaed camau ymlaen ond ar raddfa lai (gweler gwaith megis yr hyn a wnaeth McKee, Martin a Wignal) ond tueddent i adlewyrchu y problemau a godai yn nyfroedd Prydain sydd fel arfer yn oer eu tymheredd ac yn anodd gweld ynddynt.

Mae llawer o'r gwledydd sy'n datblygu yn dioddef eithafion tymheredd a lleithder ac mae rhoi ffilm mewn camera bob rhyw ychydig funudau mewn monswn neu storm o lwch yn waith lle gall y ffilm gael ei difetha'n hawdd iawn.

Dylai'r toddiant fod yn hylif ar dymheredd gweddol isel oherwydd fel y cynydda'r tymheredd mae molecylau cymhleth yn dechrau ymchwalu.

Newid bychan iawn a geir yn y tymheredd, ond yn sicr y mae'n newid y gall thermomedr eithriadol o sensitif ei ganfod.

Mae elfennau eraill o'r hinsawdd, megis tymheredd a heulwen, sy'n berthnasol i amaethyddiaeth, hefyd yn amrywio o ardal i ardal.

Gwyddonwyr yn poeni fod llosgi tanwydd ffosil yn peri i'r tymheredd godi.

Y tymheredd ar ei ucha'n 17°C (63°F). Heno: Noson gymylog efo posibilrwydd o ambell gawod.

Ni amgyffredid pa mor gyflym yr oedd tymheredd gwleidyddol Llanelli a'r cylch yn codi, nac i ba raddau yr oedd Llanelli'n ddolen wan yn y llinell gledr rhwng Llundain, Caerdydd, Abergwaun ac Iwerddon.

Er mwyn datblygu bywyd rhaid i adweithiau cemegol ddigwydd ar gyflymder rhesymol, ond os disgynna'r tymheredd yna mae cyfradd yr adweithiau hyn yn disgyn hefyd.