Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tyndale

tyndale

I ddileu achos yr anfodlonrwydd hwn fe benderfynwyd paratoi fersiwn newydd a fyddai'n osgoi tramgwydd fersiynau Tyndale a Coverdale ac y gellid ei osod ymhob eglwys fel fersiwn awdurdodedig Eglwys Loegr.

Nid oedd Coverdale yn hyddysg yn yr ieithoedd gwreiddiol, ac y mae ei fersiwn yn seiliedig ar fersiynau Lladin Pagninus ac Erasmus, ar fersiwn Almaeneg Luther ac ar fersiwn Saesneg Tyndale.

'Roedd yn amlwg yn waith a oedd wedi gwneud defnydd llwyddiannus o ysgolheictod Erasmus a Mu%nster ac wedi elwa'n fawr ar fersiynau cynharach Luther, Tyndale a Coverdale.

Y mae'n ddi-os i'r fersiwn Saesneg ennill mewn urddas trwy'r diwygio hwn, ond colled fu dileu bywiogrwydd a naturioldeb Saesneg Tyndale.

Bellach, dan ddylanwad Genefa, y mae wedi cefnu ar ddulliau rhydd Luther a Tyndale a welir yn Kynniver llith a ban ac amcanu at gyfieithu 'air yn ei gilydd' i'r diben, fel yr eglurodd mewn nodiad Saesneg yn y Llyfr Gweddi, 'i air Duw ei hun aros heb ei lygru na'i dreisio o genhedlaeth i genhedlaeth'.

'Roedd Tyndale yn hyddysg yn ieithoedd gwreiddiol y Beibl, ond mae'n amlwg fod ei fersiwn o'r Testament Newydd yn ddyledus i fersiwn Erasmus a'i fod yn gyffredinol yn drwm dan ddylanwad fersiwn Luther.

Graddiodd yntau yn y gyfraith - yng Nghaer-grawnt - a bu wedyn yn gynorthwywr i William Tyndale.

Fel Luther, nod Tyndale oedd cyfieithu i iaith a fyddai'n gwbl gyfarwydd i'r darllenydd cyffredin.

Un o'r gwyr a effeithiodd arno oedd Thomas Gerard, gwr a fu'n brysur iawn yn dosbarthu Testament Newydd William Tyndale a llyfrau Lutheraidd.

'Roedd Testament Newydd Tyndale yn dal yn waharddedig yn Lloegr, ond mae wynebddalen Beibl Coverdale a Beibl Mathew yn datgan eu bod wedi eu trwyddedu gan y brenin (Harri Vlll).

Y tebyg yw mai ffugenw oedd y 'Thomas Mathew' hwn, ac mai ei amcan oedd celu'r ffaith mai eiddo Tyndale oedd Testament Newydd y Beibl hwn a'r rhannau o'r Hen nad oeddent wedi eu cymryd o Feibl Coverdale.