Llaciodd y tyndra, ond daliodd y dynion i gadw llygad ar ei gyd- deithwyr lawr wrth y balmwydden.
Ac iddo ef ni all fod tyndra rhwng gwyddoniaeth a ffydd.
Y rhain oedd y dadleuon, y tyndrâu, ac er na fynnaf ei thrafod heddiw, yr oedd hefyd y ddadl foesol hanfodol ynglŷn â defnyddio dulliau uniongyrchol.
Mae hynny ynddo'i hun yn arwyddocaol; mae'n ein gwneud yn ymwybodol o'r tyndra rhwng y grefydd 'newydd' a'r hen fywyd, ac yn pwysleisio mai mudiad gwerinol yw Methodistiaeth, ond ein bod ni yn y nofel yng nghwmni arweinwyr y mudiad - teulu cefnog Gwern Hywel (ac i Saunders Lewis y dosbarth pendefigaidd hwnnw, uchelwyr mawr neu fach, yw'r rhai sydd a'u gwreiddiau ddyfnaf mewn hanes), a'r uchelwyr newydd - y gweinidogion.
Gwyddai Anna nad oedd William yn ei hoffi a gallai deimlo tyndra rhyngddynt.
"Gyda'r stori fer, mae'n rhaid ergydio'n uniongyrchol, cadw'r tyndra'n gyson, creu amrywiaethau'n gynnil a delicet tu hwnt (os am greu amrywiaethau o gwbl) a sicrhau fod y cynnyrch terfynol mor orffenedig â thelyneg neu englyn.
Mae'r ysgrif drwyddi'n enghraifft odidog o'r tyndra a geir yn aml yng ngwaith R.
Dangosodd yr Athro Petkov ymhellach fod ginseng yn amddiffyn y corff rhag effeithiau tyndra a straen.
'Roedd tyndra, i ddechrau, rhwng Cymreictod a Phrydeindod, rhwng cenedlaetholdeb ac Imperialaeth.
Roedd tyndra lond yr awyr.
Dim gwefr, dim tyndra!
Roedd tyndra rhwng yr hen a'r newydd yn ei amlygu ei hun yn y cyfnod hwn.
Fe fyddai'n meddwl heddiw, wrth weld cymaint o ysgariadau, y basa dôs go lew o hiwmor yn help i leihau'r tyndra.
Dywed fod pobl denau, ar y llaw arall, yn llawn tyndra ac anniddigrwydd parhaus syn ei gwneud yn amhosib bron iddyn nhw ymlacio.
Gwaith creadigol, ar unrhyw ffurf lenyddol, yn dangos tyndra rhwng dyn a'i gydwybod.
Pan ymffyrnigodd y tyndra rhwng awdurdod Rhufain a'r cenedlaetholdeb herfeiddiol daeth gwŷr y dagr, y Sicarii, yn amlwg ymhlith y Selotiaid.
Wrth ffarwelio'n derfynol mae'r geiriau hynny'n cyfleu'r argraff fod y mab yn dal yn fyw ym meddwl y bardd, ac yn y tyndra ingol hwnnw y mae grym y gerdd fawr hon.